Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 15 Ionawr 2008
i’w hateb ar 29 Ionawr 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Mohammed Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cau swyddfeydd post yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)0668(FM)
2. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyllidebau sydd wedi’u dadgyfuno sy’n amlinellu gwariant ar gyfleusterau chwaraeon yng Nghymru. OAQ(3)0650(FM)
3. Lesley Griffiths (Wrecsam): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael yn ddiweddar ynghylch cyllid Ewropeaidd. OAQ(3)0648(FM)
4. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu cyllideb arian cyfatebol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi Rhaglen Cydgyfeirio’r UE 2007-13. OAQ(3)0661(FM)
5. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar lythrennedd emosiynol. OAQ(3)0649(FM)
6. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw gynlluniau i gapio codiadau’r dreth gyngor eleni. OAQ(3)0660(FM)
7. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y GIG yng Nghymru. OAQ(3)0659(FM)
8. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad i wasanaethau Swyddfa’r Post yng Nghymru. OAQ(3)0664(FM)
9. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau trawsffiniol yng Nghymru. OAQ(3)0645(FM)
10. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i leihau nifer y bobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru. OAQ(3)658(FM)
11. Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gydag arweinwyr cynghorau ynghylch y setliad llywodraeth leol. OAQ(3)655(FM)
12. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei nodau polisi ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad. OAQ(3)657(FM)
13. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiad economaidd yn Arfon. OAQ(3)669(FM) W Tynnwyd yn ôl
14. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fesurau i hyrwyddo’r Economi Wybodaeth yng Nghymru. OAQ(3)647(FM)
15. Michael German (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael naill ai gydag Adran Drafnidiaeth y DU neu Severn River Crossings, ccc, ynghylch effaith tollau croesi Afon Hafren ar Gymru. OAQ(3)671(FM)