Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 15 Mawrth 2011 i’w hateb ar 29 Mawrth 2011
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gyllideb Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. OAQ(3)3504(FM)
2. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar losgi cynnyrch gwastraff. OAQ(3)3515(FM)
3. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cefnogi’r sector preifat yng Nghymru. OAQ(3)3499(FM)
4. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau trallwyso gwaed yng Nghymru. OAQ(3)3517(FM)
5. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu cyllid ar gyfer busnesau yng Nghymru. OAQ(3)3518(FM)
6. Veronica German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dorri amseroedd aros y GIG. OAQ(3)3510(FM)
7. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd swyddi yn y sector cyhoeddus i economi Cymru. OAQ(3)3505(FM)
8. Gareth Jones (Aberconwy): Will the First Minister make a statement on fulfilling the commitments of the One Wales agreement. OAQ(3)3519(FM) W
8. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflawni ymrwymiadau Cytundeb Cymru’n Un. OAQ(3)3519(FM) W
9. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer Islwyn. OAQ(3)3500(FM)
10. Helen Mary Jones (Llanelli): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth. OAQ(3)3503(FM)
11. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau cyllidebol ar gyfer y cyfnod sydd ar ôl cyn diddymu. OAQ(3)3509(FM)
12. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau iechyd yn Nhorfaen. OAQ(3)3511(FM)
13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau eiriolaeth yng Nghymru. OAQ(3)3508(FM)
14. David Melding (Canol De Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud i hybu entrepreneuriaid yng Nghymru. OAQ(3)3514(FM)
15. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i wella lefelau llythrennedd mewn ysgolion yng Nghymru. OAQ(3)3513(FM) TYNNWYD YN ÔL