Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16 Medi 2010 i’w hateb ar 29 Medi 2010
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol
1. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei adolygiad o brosesau deddfwriaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)0153(CGE)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
1. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo cyflog cyfartal yng Nghymru. OAQ(3)1336(SJL)
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfle cyfartal i'r gymuned anabl. OAQ(3)1353(SJL)
3. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i helpu pensiynwyr i dalu eu biliau treth gyngor. OAQ(3)1346(SJL)
4. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo defnyddio undebau credyd. OAQ(3)1323(SJL)
5. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiwygio ardrethi busnes. OAQ(3)1310(SJL)
6. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i gefnogi pobl dan anfantais yng Nghymru. OAQ(3)1309(SJL)
7. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y mentrau Cymunedau yn Gyntaf yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)1338(SJL)
8. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gwrdd ag awdurdodau tân yng Nghymru. OAQ(3)1329(SJL) TYNNWYD YN ÔL
9. Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglyn â dyfodol rhwydwaith Swyddfa'r Post. OAQ(3)1320(SJL)
10. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Cymunedau yn Gyntaf. OAQ(3)1327(SJL)
11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i gymunedau. OAQ(3)1321(SJL)
12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gynlluniau ar gyfer gweddill y Trydydd Cynulliad. OAQ(3)1325(SJL)
13. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)1307(SJL)
14. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am arian llywodraeth leol yng Nghymru. OAQ(3)1315(SJL)
15. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y nifer sy'n cael grantiau awdurdodau lleol yng Nghymru. OAQ(3)1313(SJL)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
1. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Faint o bobl ifanc a ddynodir yn NEET yng Nghymru? OAQ(3)1469(CEL) TYNNWYD YN ÔL
2. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru. OAQ(3)1501(CEL) TYNNWYD YN ÔL
3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau portffolio ar gyfer gweddill y Trydydd Cynulliad. OAQ(3)1473(CEL)
4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb ar gyfer addysg yng Nghymru. OAQ(3)1502(CEL) TYNNWYD YN ÔL
5. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fasnacheiddio ymchwil mewn Addysg Uwch yng Nghymru. OAQ(3)1491(CEL)
6. Leanne Wood (Canol De Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i wella lefelau sgiliau sylfaenol. OAQ(3)1487(CEL)
7. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y nifer sy'n cael cinio ysgol am ddim. OAQ(3)1482(CEL)
8. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb ar gyfer Addysg Uwch. OAQ(3)1494(CEL)
9. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer addysg yn Sir Fynwy dros y chwe mis nesaf. OAQ(3)1478(CEL)
10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer cyllideb ei adran. OAQ(3)1475(CEL)
11. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Gronfa Ymddiriedolaeth Plant Cymru. OAQ(3)1484(CEL) TYNNWYD YN ÔL
12. Nick Ramsay (Mynwy): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i sicrhau bod holl adeiladau ysgolion Cymru yn addas i'r diben. OAQ(3)1479(CEL)
13. Veronica German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Dechrau’n Deg. OAQ(3)1468(CEL)
14. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gweddill y Trydydd Cynulliad. OAQ(3)1480(CEL)
15. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru. OAQ(3)1489(CEL)