30/04/2013 - Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25 Ebrill 2013 i’w hateb ar 30 Ebrill 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud wrth weithio gyda Gwasanaeth Iechyd a Lles Cyn-filwyr Cymru Gyfan i ddarparu triniaeth a chefnogaeth ddigonol ar gyfer cyn-filwyr Cymru sy’n dioddef o anhwylder straen wedi trawma? OAQ(4)1017(FM)

2. David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch rhoi ystyriaeth bellach i ddatganoli cydsyniadau ynni yng Nghymru? OAQ(4)1026(FM)

3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)1015(FM)

4. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw cynlluniau’r Prif Weinidog i wella’r amgylchedd yn ardal Gogledd Caerdydd? OAQ(4)1027(FM)

5. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Beth yw barn y Prif Weinidog ynghylch hawl plant a’u rhieni i gael gwybodaeth am asbestos mewn ysgolion a sut mae’r asbestos hynny yn cael ei reoli? OAQ(4)1020(FM)W

6. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa fanteision economaidd i Gymru y mae’r Prif Weinidog yn disgwyl eu gweld o ganlyniad i bresenoldeb Dinas Abertawe a Dinas Caerdydd yn Uwchgynghrair Lloegr?  OAQ(4)1018(FM)

7. Lynne Neagle (Torfaen): Sut y mae’r Prif Weinidog yn bwriadu gwella iechyd a lles trigolion Torfaen? OAQ(4)1030(FM)

8. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch trwydded Sianel 3 ar wahân i Gymru? OAQ(4)1029(FM)

9. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru am gefnogi economi gogledd Cymru yn 2013? OAQ(4)1022(FM)

10. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau i gefnogi pobl sy’n dioddef o Sglerosis Ymledol? OAQ(4)1021(FM)

11. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y sefyllfa o ran recriwtio staff meddygol i’r gwasanaeth iechyd yn ardal bwrdd iechyd lleol Betsi Cadwaladr? OAQ(4)1019(FM)W

12. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am statws TAN 8: Ynni Adnewyddadwy? OAQ(4)1025(FM)

13. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am brosiectau ynni cymunedol yng Nghymru? OAQ(4)1028(FM)

14. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Remploy yng Nghymru? OAQ(4)1023(FM)

15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig? OAQ(4)1024(FM)