Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 23 Ebrill 2014 i'w hateb ar 30 Ebrill 2014
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
1. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fanteision coedwigo cyfuchlin? OAQ(4)0141(NRF)
2. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog cymunedau i wneud ceisiadau i gofrestru tir yn faes pentref? OAQ(4)0143(NRF)
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo ffermwyr yn Sir Benfro? OAQ(4)0139(NRF)
4. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y gronfa a sefydlwyd i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth yng Nghymru? OAQ(4)0144(NRF)W
5. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda Dwr Cymru? OAQ(4)0145(NRF)
6. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei gynlluniau i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru? OAQ(4)0151(NRF)W
7. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am weithredu Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014? OAQ(4)0142(NRF) TYNNWYD YN OL
8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drwyddedau pysgota cregyn gleision? OAQ(4)0146(NRF)W
9. David Rees (Aberafan): Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gynnal ar ddyddodion nwy anghonfensiynol yng Nghymru? OAQ(4)0137(NRF) TYNNWYD YN OL
10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfrifoldebau statudol Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Tiroedd Comin 2006? OAQ(4)0148(NRF)
11. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn 2014 i helpu newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant ffermio? OAQ(4)0135(NRF)
12. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw benderfyniad y mae wedi ei wneud yn dilyn ei ymgynghoriad diweddar ar y Rhaglen Datblygu Gwledig? OAQ(4)0140(NRF)W
13. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl Cyfoeth Naturiol Cymru o ran diogelu'r amgylchedd naturiol, yn enwedig pan fydd ceisiadau cynllunio yn ei fygwth? OAQ(4)0150(NRF)
14. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglyn â'r morlyn llanw arfaethedig yn Abertawe? OAQ(4)0138(NRF)
15. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i'r afael â chlefyd Phytophthora Ramorum? OAQ(4)0136(NRF) TYNNWYD YN OL
Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio
1. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei bolisïau i gynorthwyo adfywio'r stryd fawr? OAQ(4)0385(HR)
2. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r argymhellion a wnaed gan y Grwp Gorchwyl a Gorffen Diwygio Lles? OAQ(4)0389(HR)
3. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i gynyddu'r isafswm cyfnod lle y mae'n rhaid rhoi tenantiaeth fyrddaliol sicr? OAQ(4)0391(HR)
4. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfleoedd adfywio i'r sector preifat? OAQ(4)0384(HR)
5. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gydag awdurdodau lleol ynglyn â datblygiadau ystadau tai anghyflawn? OAQ(4)0392(HR)
6. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo pobl ifanc ddigartref? OAQ(4)0394(HR) TYNNWYD YN OL
7. Andrew RT Davies: (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd prosiectau adfywio yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0390(HR)
8. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun Swyddogion Galluogi Tai Gwledig yng Nghymru? OAQ(4)0379(HR)
9. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog nodi pa reolaethau y mae Llywodraeth Cymru yn gallu eu gweithredu dros awdurdod lleol i sicrhau bod datblygiadau tai yn cael eu cwblhau'n briodol? OAQ(4)0378(HR) TYNNWYD YN OL
10. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda’r diwydiant adeiladu i baratoi ar gyfer dechrau Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011? OAQ(4)0386(HR) TYNNWYD YN OL
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lwyddiant y strategaeth cartrefi gwag? OAQ(4)0376(HR)
12. Julie James (Gorllewin Abertawe): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella rheoliadau hysbysebu tai amlfeddiannaeth? OAQ(4)0393(HR)
13. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pryd y mae'r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi testun cyflawn y Bil Cynllunio yn dilyn y papur gwyn ‘Cynllunio Cadarnhaol’ŷ OAQ(4)0383(HR)W
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddigonolrwydd y system gynllunio mewn perthynas â rheoli perygl llifogydd? OAQ(4)0381(HR)
15. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn diwallu anghenion eu cymunedau? OAQ(4)0388(HR)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ei ddyletswyddau o ran cynrychioli Llywodraeth Cymru mewn achosion cyfreithiol? OAQ(4)0061(CG)W TYNNWYD YN OL