01/06/2009 - Answers issued to Members on 1 June 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 1 Mehefin 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion (a) beth oedd cost y contract meddygon teulu i Lywodraeth Cynulliad Cymru a (b) sut y mae hyn yn cymharu â’r costau a ragwelwyd yn wreiddiol? (WAQ54228)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Cyhoeddir ffigurau’r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol (GMS) yn flynyddol yng nghyfrifon cryno GIG (Cymru) sydd ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae newidiadau i’r contract yn gwneud cymhariaeth ddilys â’r amcangyfrifon gwreiddiol yn anodd iawn. Rwy’n cyfeirio’r Aelod at yr Adolygiad o’r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol Newydd yng Nghymru gan Swyddfa Archwilio Cymru, dyddiedig 23 Awst 2007, lle y mae’r mater hwn wedi ei ystyried yn go fanwl.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion (a) pryd y caiff Is-gadeiryddion yr Ymddiriedolaethau GIG newydd eu penodi a (b) pryd y byddant yn dechrau eu swyddi newydd? (WAQ54229)

Brian Gibbons: Mae cyfweliadau ar gyfer Is-gadeiryddion y Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) newydd wedi cael eu cynnal ac mae unigolion wedi’u penodi i bump ohonynt. Bydd y penodiadau hyn yn dechrau 1af Mehefin 2009—lle y caiff y BILlau eu sefydlu’n ffurfiol ar ffurf gysgodol.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion (a) sut y caiff uwch reolwyr y Byrddau Iechyd Lleol sydd wedi’u diddymu eu hailddyrannu i swyddi newydd a (b) pa swyddi y byddant yn eu llenwi? (WAQ54230)

Brian Gibbons: Caiff rheoli newid mewn Ymddiriedolaethau a BILlau ei gynnal yn unol â darpariaethau’r Polisi Newid Sefydliadol (OCP) ar gyfer GIG Cymru (Mawrth 2009). Cafodd y polisi ei ddatblygu a’i gyd-drafod ar y cyd â chynrychiolwyr y GIG ac Undebau Llafur. Nod y Polisi hwn yw sicrhau bod y GIG yn cadw gwybodaeth, sgiliau a phrofiad gwerthfawr ei weithlu, drwy ddefnyddio nifer o strategaethau, sy’n cynnwys helpu aelodau o staff sydd wedi’u dadleoli i ddod o hyd i gyflogaeth amgen addas a darparu cyfleoedd ailhyfforddi, a fydd yn galluogi staff i barhau i gyfrannu’n gadarnhaol tuag at y GIG.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Beth yw cyfanswm cost ad-drefnu’r GIG hyd yn hyn? (WAQ54231)

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Beth oedd cyfanswm cost creu’r Byrddau Iechyd Lleol? (WAQ54232)

Brian Gibbons: Fe’ch cyfeiriaf at WAQ53721 a atebwyd ar 16 Mawrth.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gofynion diogelwch rhwydwaith TGCh newydd ar gyfer Awdurdodau Lleol (Y Cod Cysylltu) ac effaith hyn ar gyrff allanol sy’n cael mynediad i’r rhyngrwyd drwy gysylltiadau a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol? (WAQ54222)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Daeth y gofynion diogelwch rhwydwaith TGCh newydd ar gyfer Awdurdodau Lleol ledled y DU i rym ar ddechrau mis Ebrill 2009 er mwyn sicrhau y gellid anfon gwybodaeth y mae angen ei hanfon ar lefel GYFYNGEDIG i’r Adran Gwaith a Phensiynau, neu i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi dros rwydwaith newydd o’r enw Allrwyd Ddiogel Cyswllt Llywodraeth (GCSx).

Mae’r 'Code of Connection’ (CoCo) yn diffinio’r gofynion yng nghyd-destun yr Awdurdod lleol, pobl, proses a thechnoleg er mwyn diogelu gwybodaeth o’r fath ar bob cam. Roedd yn rhaid i bob un o’r Awdurdodau Lleol ledled Cymru ystyried yn fanwl bob agwedd ar eu busnes yn unol â hynny er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r CoCo.

Yng Nghymru, ymdrinnir â’r cysylltiad technegol â’r GCSx ar y cyd ag Is-adran Rhwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn sicrhau bod gennym yr un dull cenedlaethol sy’n lleihau costau cymaint â phosibl ac sy’n sicrhau cydymffurfiaeth genedlaethol ar bob lefel.

Ni ddylai fod unrhyw effaith ar gyrff eraill yn y sector cyhoeddus sy’n defnyddio rhwydweithiau Awdurdodau Lleol er mwyn defnyddio’r Rhyngrwyd o ganlyniad i GCSx cyhyd â bod Awdurdodau Lleol yn dilyn arfer da mewn dylunio diogelwch pan fyddant yn sicrhau cydymffurfiaeth â’r GCSx, a dyma beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn yn ein barn ni.