01/07/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 24 Mehefin 2008 i’w hateb ar 1 Gorffennaf 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffordd yng nghyffordd Temple Bar ar yr A487. (WAQ51932)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro ynghylch eu cynnig i symud gwelyau acíwt i'r gymuned. (WAQ51925)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaeth y Gweinidog hysbysu'r Prif Weinidog am wrthdaro posibl mewn buddiannau, fel a nodir yng Nghod y Gweinidogion, cyn dechrau ar yr adolygiad annibynnol o wasanaethau niwrolawdriniaeth; os na, pam ddewisodd hi beidio â gwneud hynny. (WAQ51926)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gyngor a geisiodd y Gweinidog am y darpariaethau yng Nghod y Gweinidogion cyn penderfynu rhoi terfyn ar ddiwygio gwasanaethau niwrolawdriniaeth. (WAQ51927)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa bryd fydd y Gweinidog yn datgan ei phenderfyniad, yn unol â'r gweithdrefnau a nodir yng ngweithdrefn Datrys Anghydfodau contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, ynghylch y diffyg cynnydd yng ngwaith ailadeiladu Canolfan Feddygol Gogledd Caerdydd.  (WAQ51928)R

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r newyddion diweddaraf ynghylch darparu cefnogaeth ôl-ofal yn y gymuned i'r dyfodol ar gyfer y rheini sydd newydd ddechrau defnyddio cymorth clyw ledled Cymru. (WAQ51929)

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba drefniadau, os o gwbl, a gynigir i sicrhau bod gwasanaethau arbenigol ar gael i blant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw yn yr unedau iechyd meddwl arfaethedig newydd ar gyfer plant a'r glasoed ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Abergele. (WAQ51930)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mike German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y toriad mewn cyllid i Dîm Coginio Cymru a'r effaith y gallai'r toriad ei gael ar berfformiad y tîm dros y flwyddyn i ddod. (WAQ51931)