01/09/2010 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 01 Medi 2010      

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o ysgrifenyddion y dyddiadur ac ysgrifenyddion cynorthwyol y dyddiadur a gyflogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddelio ag ymrwymiadau dyddiadur Gweinidogion, a faint a ddyrennir i bob Gweinidog. (WAQ56439)

Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa amcangyfrifon a wnaethpwyd ynghylch y gostyngiad i DEL Cyfalaf Cymru mewn termau real yn 2011-12, 2012-13, 2013-14 a 2014-15 fel a) swm (mewn £), a b) canran. (WAQ56422)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Am sawl blwyddyn y disgwylir i gyfanswm cyllideb DEL Cymru grebachu. (WAQ56423)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd y disgwylir y bydd cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dychwelyd i'w lefel yn 2009-10 mewn termau real. (WAQ56424)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu diogelu gwariant ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn termau real yn 2011-12, 2012-13, 2013-14, a 2014-15, o'i gymharu â 2010-11. (WAQ56443)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion uwchradd. (WAQ56426)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu argymhellion adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar adeiladau ysgolion, a gyhoeddwyd fis diwethaf. (WAQ56427)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi asesiad ar yr ymgyrch Rho Amser i Ddarllen. (WAQ56478)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i ddiogelu cyllid ar gyfer cyfleusterau ieuenctid a meysydd chwarae ysgolion yng Nghymru. (WAQ56429)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau sydd wedi'u cymryd i sefydlu'r targedau o ran y nifer a dderbynnir ar gyfer hyfforddiant athrawon yn 2011/12. (WAQ56431)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr arian sy'n cael ei wario ar hyfforddi athrawon newydd o'i gymharu â'r arian sy'n cael ei wario ar DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus) i'r rheini sydd eisoes yn athrawon. (WAQ56432)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gost effeithiolrwydd y bwrsarïau a ddyfernir i fyfyrwyr TAR sy'n cael eu recriwtio bob blwyddyn. (WAQ56437)

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r bwlch cynyddol mewn perfformiad rhwng myfyrwyr yng Nghymru a myfyrwyr yn Lloegr ar y lefelau TGAU a Safon Uwch. (WAQ56442)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae'n cynyddu pŵer gwario'r cyllidebau sydd ganddo yng nghyswllt ffyrdd. (WAQ56425)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint sydd wedi cael ei wario ar ddatblygu'r Parc Awyrofod yn Sain Tathan. (WAQ56430)

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa arian sydd ar gael iddo er mwyn gallu diwallu costau annisgwyl yn ystod y flwyddyn. (WAQ56433)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r amserlen ar gyfer disodli'r Gronfa Fuddsoddi Sengl. (WAQ56436)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A yw'r Gweinidog wedi asesu'r potensial i wneud arbedion yn ei adran. (WAQ56438)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, faint o weithwyr nad ydynt yn weithwyr meddygol sy'n ennill dros £100,000 y flwyddyn, a beth yw eu swyddi. (WAQ56420)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pryd gall Rheilffordd Llangollen ddisgwyl penderfyniad ynghylch Gorchymyn Trafnidiaeth a Gwaith Rheilffordd Llangollen.  (WAQ56421)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A yw pob Bwrdd Iechyd Lleol ar y trywydd iawn i gyflawni eu cynlluniau ar gyfer gwella gofal canser ym mis Medi. (WAQ56434)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A all y Gweinidog dros Iechyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Gyfarwyddeb ar Ddatblygu Gwasanaethau Epilepsi, gan roi manylion ynghylch a yw'r amserlen ar gyfer gweithredu ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i gael ei chyflawni. (WAQ56435)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Ac ystyried yr anghysondebau ar draws y GIG yng Nghymru o ran yr amser y mae'n rhaid i gleifion aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys cyn cael eu derbyn i'r ysbyty, pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd ochr yn ochr â Byrddau Iechyd Lleol i fynd i'r afael â'r mater. (WAQ56441)