02/01/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 21 Rhagfyr 2012 i’w hateb ar 2 Ionawr 2013

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r amserlen ddisgwyliedig y mae’n rhagweld a gaiff ei dilyn ar gyfer cynnal profion diwydrwydd dyladwy ac archwiliadau eraill yng nghyswllt y posibilrwydd y caiff Maes Awyr Caerdydd ei brynu. (WAQ61873)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pa gyllideb a ddefnyddir i gwblhau’r cynnig arfaethedig i brynu Maes Awyr Caerdydd, ac a wnaiff gadarnhau a yw’n disgwyl y bydd unrhyw broses brynu yn cael ei chwblhau cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. (WAQ61874)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a yw’r broses o gynnal y profion diwydrwydd dyladwy a pharatoi’r achos busnes yn cael ei chynnal yn fewnol gan weision sifil neu gan arbenigwyr trydydd parti allanol o’r diwydiant hedfan. (WAQ61875)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau ar ba ddyddiad y cyflwynwyd cynnig ffurfiol i brynu Maes Awyr Caerdydd i berchnogion presennol y maes awyr. (WAQ61876)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pwy fydd yn gwneud y penderfyniadau yn y pen draw ar gyfer cyflwyno’r prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf - Llywodraeth Cymru neu BT fel rhan o’i gontract. (WAQ61878)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Beth yw’r cynlluniau ar gyfer cyflwyno’r prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf ym Machynlleth a’r ardal gyfagos. (WAQ61879)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth fydd Sefydliad Sirolli yn ei wneud yn benodol i sefydlu model o ddatblygu economaidd ar sail gymunedol yn y Drenewydd, Powys, a’r ardal gyfagos. (WAQ61882)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y penodwyd Sefydliad Sirolli i weithio ym Mhowys. (WAQ61883) W

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i ddiogelu plant yn ardal Cyngor Sir Penfro yn dilyn adroddiadau Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru. (WAQ61866) W

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Faint o athrawon y mae’r Gweinidog yn disgwyl a fydd yn bresennol yn y gweithdai TGAU Saesneg a mathemateg a gyflwynir gan Education London Ltd ym mis Chwefror 2013. (WAQ61870)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatgan cost darparu’r gweithdai TGAU Saesneg a mathemateg a gyflwynir gan Education London Ltd ym mis Chwefror 2013. (WAQ61871)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi’r adroddiad ar yr adolygiad a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Asiantaeth yr Amgylchedd ar lifogydd yn ystâd Glasdir, Rhuthun. (WAQ61867)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan manylion a) faint o geisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau ar dir a ddynodwyd yn ‘orlifdir parth C2’ y rhoddwyd caniatâd iddynt ers dechrau’r Pedwerydd Cynulliad, a b) lleoliad y datblygiadau hyn. (WAQ61868)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa sylwadau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cyflwyno i gwmnïau ynni sy’n gweithredu yng Nghymru ynghylch codiadau mewn prisiau tanwydd. (WAQ61872)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu'r data ar nifer y cleifion sydd â retinopathi diabetig sy’n cael triniaeth ar ôl atgyfeiriad brys cyn pen y targed o 14 diwrnod, ar gyfer pob mis sydd ar gael yn ystod 2011 a 2012 ar gyfer pob bwrdd iechyd yng Nghymru. (WAQ61869)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddarparu tabl yn dangos faint o Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol a gafodd pob Bwrdd Iechyd Lleol a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn 2012, yn ogystal â ffigurau yn dangos faint a gymeradwywyd a faint a wrthodwyd. (WAQ61877)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amser a gymerir ar gyfer gwneud diagnosis o Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig yn Sir Benfro. (WAQ61880)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn cael eu hyfforddi ar ymwybyddiaeth o Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig yn Sir Benfro. (WAQ61881)