Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Ionawr 2012 i’w hateb ar 2 Chwefror 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn ei lythyr FM-/05810/11, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau cyfanswm y gost i Lywodraeth Cymru yn sgil cyflogi’r 9.5 o swyddogion undeb amser llawn i) yn y flwyddyn ariannol bresennol, a ii) pob swyddog undeb o’r fath ym mhob un o’r tair blynedd blaenorol. (WAQ59660)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro pam nad yw’r brîd gwartheg duon Cymreig brodorol yn dal heb ei gynnwys ar restr y bridiau cymeradwy o dan elfen Cymru gyfan Glastir. (WAQ59655)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau presennol Llywodraeth Cymru i gefnogi treulio anaerobig ar ffermydd. (WAQ59657)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau’r gwerth gorau i drethdalwyr yn sgil gwaredu’r safleoedd technium. (WAQ59667)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn ôl pob awdurdod lleol yng Nghymru ac ym mhob un o’r 5 mlynedd diwethaf, sawl digwyddiad o drais gan ddisgyblion yn erbyn staff a gofnodwyd ac, o’r digwyddiadau hynny, faint oedd yn cynnwys defnyddio cyllell, a faint oedd yn cynnwys defnyddio unrhyw arf arall. (WAQ59662)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn ei ateb i WAQ58440, ar hyn o bryd pa bryd y mae’n disgwyl y bydd yr adroddiad ar gael i’r cyhoedd. (WAQ59656)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau presennol Llywodraeth Cymru i wella’r gefnogaeth ar gyfer treulio anaerobig ar ffermydd yn y system gynllunio. (WAQ59658)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o gyfarfodydd dwyochrog y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch diwygio fformiwla Barnett ac ynghylch pwerau benthyca i’r Cynulliad Cenedlaethol a faint mae’n bwriadu eu cynnal dros y chwe mis nesaf. (WAQ59661)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn ôl pob bwrdd iechyd lleol, beth oedd y cyfanswm a wariwyd ar blanhigion ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ59665)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn ôl pob bwrdd iechyd lleol, beth oedd y cyfanswm a wariwyd ar arddio ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ59664)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn ôl pob bwrdd iechyd lleol, beth oedd y cyfanswm a wariwyd ar waredu sbwriel sigaréts ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ59663)
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Faint o swyddogion undebau llafur amser llawn neu gyfwerth ag amser llawn y mae Comisiwn y Cynulliad wedi’u cyflogi ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf a beth oedd cyfanswm costau hynny. (WAQ59659)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Faint o gyfrifiaduron llecheniPad1 ac iPad 2 y mae Comisiwn y Cynulliad wedi’u prynu, gan nodi i) cyfanswm y costau prynu a chostau’r contractau, a ii) dyddiad prynu pob un. (WAQ59666)