02/10/2007 - Cwestiynau Ysgrifenedig

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25 Medi 2007 i’w hateb ar 02 Hydref 2007

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a ThaiJenny Randerson (Canol Caerdydd): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i gyhoeddi canllawiau cynllunio ynghylch darparu toiledau cyhoeddus hygyrch, cyfartal a digonol ar gyfer dynion a menywod. (WAQ50410)Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i agor Mynyddoedd Cambria i gerbydau modur. (WAQ50413)Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth yw amserlen Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer gwneud cais am ddatganoli rheoliadau adeiladau yng Nghymru. (WAQ50415)Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i weithredu eu penderfyniad dyddiedig Rhagfyr 6ed diwethaf i "gydnabod y potensial ar gyfer cael Mesuryddion Call i wella effeithlonrwydd ynni, a gweithio gyda darparwyr ynni i gyflwyno astudiaeth beilot yng Nghymru”. (WAQ50419)Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth LeolJenny Randerson (Canol Caerdydd): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i gyhoeddi canllawiau ynghylch darparu toiledau cyhoeddus hygyrch, cyfartal ar gyfer dynion a menywod. (WAQ50412)Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau CymdeithasolJenny Randerson (Canol Caerdydd): Pryd fydd Cymru’n cyflwyno cyfarwyddebau comisiynu ar gyfer gofal anadlol. (WAQ50414)Gofyn i'r Gweinidog dros DreftadaethJenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwaith adnewyddu cyfredol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. (WAQ50411)Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllido Gwasanaethau Menter Ddiwylliannol. (WAQ50416)Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru dros y deuddeg mis nesaf. (WAQ50417)Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogi ymarferwyr Celfyddydol yng nghefn gwlad Cymru. (WAQ50418)