Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25 Medi 2012
i’w hateb ar 2 Hydref 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi rhestr o’r holl gyfarfodydd y mae’r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd wedi bod yn bresennol ynddynt at ddibenion hybu bwyd a diod o Gymru yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. (WAQ61242)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y broses ar gyfer cymeradwyo cynhyrchu cig dafad ‘gyda’r croen ynghlwm’ yn gyfreithlon. (WAQ61243) Trosglwyddwyd i'w ateb yn Ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddenu buddsoddiad uniongyrchol o dramor i Gymru. (WAQ61249)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog roi copïau o’r cyfraniadau i’r cais am dystiolaeth gan Grwp Gorchwyl a Gorffen Ardaloedd Twf Lleol Powys. (WAQ61251)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa bryd y bydd y Gweinidog yn cyhoeddi pa argymhellion y bydd yn eu derbyn o’r Adolygiad o Ardrethi Busnes Cymru: Cymell Twf, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2012. (WAQ61252)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Aled Roberts (Gogledd Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cael unrhyw gyngor gan swyddogion neu sefydliadau allanol eleni sydd wedi golygu ei fod wedi ailasesu cost polisi ffïoedd dysgu Llywodraeth Cymru. (WAQ61250)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog bennu dyddiad targed ar gyfer sicrhau statws heb TB swyddogol yng Nghymru. (WAQ61244)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o a) nifer y gwartheg a laddwyd, b) sawl buches sydd o dan gyfyngiadau symud, ac c) cyfanswm yr iawndal a dalwyd i ffermwyr ym mhob un o’r 12 mis diwethaf fel rhan o raglen dileu TB Llywodraeth Cymru. (WAQ61245)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu ei rhaglen dileu TB yn dilyn adroddiad yr Is-Grwp “Tiwbercwlosis mewn Gwartheg”, (SANCO/2012/11191), o Dasglu’r Comisiwn Ewropeaidd ar Fonitro Dileu Clefydau Anifeiliaid. (WAQ61246)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Beth yw’r asesiad mwyaf diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith clefyd Johne ar fuchesi godro yng Nghymru. (WAQ61247)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa bryd y mae’r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi argymhellion ei waith cwmpasu “i greu cyfleoedd a phenderfynu ar drefniadau ymarferol gwaith Cyd-Awdurdodau Trafnidiaeth” ac i roi “ystyriaeth fanwl i’r cyngor cyfreithiol, y costau, y buddiannau, y risgiau a’r cyfleoedd” (tudalen 86 Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu Mai 2012). (WAQ61248)