02/11/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 2 Tachwedd 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 2 Tachwedd 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithaso

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Faint o arian y mae’r Gweinidog yn bwriadu ei ddyrannu i’r Cynllun Recriwtio Graddedigion a gyhoeddwyd fel rhan o’r adolygiad diweddar o ariannu myfyrwyr, a phryd y caiff ei gyflwyno. (WAQ55037)

Rhoddwyd ateb ar 10 Tachwedd 2009

Mae amcanestyniad o'r arian i'w ryddhau i ariannu'r cynllun fel a ganlyn:

2013-2014 - £500,000

2014-2015 - £1,000,000

2015-2016 - £1,000,000.

Fel y cyhoeddais yn fy natganiad ar 18 Mawrth, bydd hyn yn annog graddedigion newydd i ddechrau cyflogaeth yng Nghymru. Caiff y cynllun hwn ei ddatblygu mewn partneriaeth â chyflogwyr yng Nghymru, Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru a'r cynghorau sgiliau sector.

Caiff y cynllun hwn ei gyflwyno mewn pryd ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd 2013/14.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Faint o arian y mae’r Gweinidog yn bwriadu ei ddyrannu i’r fframwaith Bwrsariaeth Cenedlaethol a chyflwyno bwrsariaethau ac ysgoloriaethau wedi’u targedu a gyhoeddwyd fel rhan o’r adolygiad diweddar o ariannu myfyrwyr, a phryd y caiff ei gyflwyno. (WAQ55038)

Rhoddwyd ateb ar 09 Tachwedd 2009

Cyfeiriwch at fy ymateb i WAQ54809 a gyhoeddwyd ar 28 Medi 2009.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Faint o arian y mae’r Gweinidog yn bwriadu ei ddyrannu i ddileu dyledion myfyrwyr a gyhoeddwyd fel rhan o’r adolygiad diweddar o ariannu myfyrwyr, a phryd y caiff ei gyflwyno. (WAQ55039)

Rhoddwyd ateb ar 09 Tachwedd

Fel rhan o'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2010-2011, rwyf wedi dyrannu £7.9 miliwn yn ychwanegol i'r Ddarpariaeth Cyllidebu Adnoddau Benthyciadau Cynhaliaeth.

Fel y cyhoeddais yn fy natganiad ar 18 Mawrth bydd hyn yn dileu dyled o hyd at £1,500 cansliad i fyfyrwyr sy'n trefnu benthyciad costau byw gan Weinidogion Cymru yn 2010/2011 pan fyddant yn gwneud eu had-daliad cyntaf gorfodol o'r benthyciad.

Cyflwynir y cynllun mewn pryd ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2010/2011 gyda deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno gerbron y Cynulliad ym mis Ionawr neu Chwefror 2010.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A oes gan y Gweinidog gynlluniau i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer clybiau ffilmiau mewn ysgolion, yn dilyn y cynlluniau peilot a gafodd eu rhedeg mewn 17 ysgol gan Asiantaeth Ffilm Cymru. (WAQ55040)

Rhoddwyd ateb ar 09 Tachwedd 2009

Mae'r Clwb Ffilmiau yn rhoi cyfle i ddisgyblion a myfyrwyr astudio byd ffilmiau drwy gynnal clybiau ffilm ar ôl ysgol. Gwn y gallant ysbrydoli a chyffroi, ac agor drysau newydd o ran dysgu i ddysgwyr.

Asiantaeth Ffilm Cymru yw prif arianwyr y cynlluniau peilot yng Nghymru, ar hyn o bryd mae'n cael arian craidd gan rhan Busnes Creadigol Cymru o Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae adolygiad o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru wrthi'n cael ei gynnal gan yr Athro Ian Hargreaves. Mae'n ystyried nifer o feysydd gan gynnwys ariannu'r sector yn y dyfodol. Ni ddisgwylir canlyniad yr adolygiad hwn tan ddechrau'r flwyddyn nesaf.

O ystyried y sefyllfa ariannol anodd gyfredol nid oes cynlluniau i roi cymorth ychwanegol i glybiau ffilmiau o'r gyllideb addysg.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd at weithredu argymhellion Adroddiad Routledge ar Wella Argaeledd Meddyginiaethau ar gyfer Cleifion yng Nghymru. (WAQ55041)

Rhoddwyd ateb ar 09 Tachwedd 2009

Sefydlais Grŵp Gweithredu i ddatblygu canfyddiadau Adroddiad Routledge. Mae'r Grŵp wedi nodi'r materion craidd i weithredu arnynt ac wedi pennu tasgau i aelodau. Mae rhai o'r argymhellion eisoes wedi eu cwblhau, er enghraifft Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan yn mabwysiadu cyngor ategol yn ymwneud â thriniaethau parhau bywyd/diwedd oes a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol yn gynharach eleni.

Mae'r Grŵp wedi ystyried ymhellach faterion allweddol eraill gan gynnwys y posibilrwydd o ehangu cylch gwaith Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan i gynnwys arfarnu pob meddyginiaeth newydd yng Nghymru; datblygu model arfaethedig ar gyfer ymdrin â cheisiadau gan gleifion unigol i ariannu triniaeth; a, hyfforddiant ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol i'w helpu i gyfathrebu'n effeithiol â chleifion ynglŷn â phenderfyniadau anodd yn ymwneud â risgiau a buddiannau triniaethau gwahanol.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Cadeirydd adroddiad interim o'r cynnydd a wnaed wrth weithredu'r argymhellion ac rwy'n disgwyl yr adroddiad terfynol ym mis Mawrth 2010.

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o unigolion yn y GIG yng Nghymru yr ad-drefnwyd eu swyddi sydd â chyflogau sydd wedi’u diogelu ar eu hen gyfradd. (WAQ55043)

Rhoddwyd ateb ar 10 Chwefror 2010

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog. Mater i'r sefydliadau GIG unigol yw manylion aelodau o staff unigol.

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o staff y GIG sydd wedi colli eu swydd o ganlyniad i ad-drefnu’r GIG. (WAQ55044)

Rhoddwyd ateb ar 10 Chwefror 2010

Dim.

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o arian yr oedd y Gweinidog wedi’i ddyrannu ar gyfer taliadau dileu swyddi a chostau cysylltiedig wrth baratoi at ad-drefnu’r GIG. (WAQ55045)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o arian sydd wedi cael ei wario ar daliadau dileu swyddi a chostau cysylltiedig o ganlyniad i ad-drefnu’r GIG. (WAQ55046)

Rhoddwyd ateb ar 10 Chwefror 2010

Dim. Polisi GIG Cymru yw sicrhau bod y GIG yn cadw gwybodaeth, sgiliau a phrofiad gwerthfawr ei weithlu drwy ddefnyddio nifer o strategaethau i gynorthwyo staff a ddadleolir i ddod o hyd i gyflogaeth amgen addas a/neu gyfleoedd ailhyfforddi, a fydd yn eu galluogi i barhau i wneud cyfraniad cadarnhaol i'r gwasanaeth.

Peter Black (Gorllewin De Cymru): At ei gilydd, faint y mae GIG Cymru wedi’i wario ar gyflogau Swyddogion Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau Gweithredol o’r Bwrdd ym mhob blwyddyn ariannol er 2005/06 a beth yw’r gwariant rhagamcanol ar gyfer hyn yn 2009/10. (WAQ55047)

Rhoddwyd ateb ar 09 Tachwedd 2009

Mae'r cyfrifon y gwnaethoch ofyn amdanynt wedi'u cyhoeddi a gellir eu gweld yn:

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid.htm?ds=3%2F2006&submit=Submit

LD6304 - Cyfrifon Cryno GIG (Cymru) 2005-2006

Gosodwyd ddydd Mercher, 17 Ionawr 2007

GEN-LD6795 - Cyfrifon Cryno GIG Cymru 2006-2007

Gosodwyd ddydd Mercher, 12 Medi 2007

GEN-LD7205 - Cyfrifon Cryno GIG (Cymru) 2007-2008

Gosodwyd ddydd Mawrth, 21 Awst 2008

Ni chedwir ffigurau ar y gwariant a ragwelir yn 2009/10 yn ganolog.

Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd cyflog unrhyw aelod o staff y mae ei swyddogaeth wedi newid o ganlyniad i ad-drefnu yn cael ei addasu’n unol â hynny. (WAQ55048)

Rhoddwyd ateb ar 10 Chwefror 2010

Caiff yr holl staff y mae eu rolau wedi newid o ganlyniad i'r ad-drefnu eu trin yn unol â darpariaethau'r Polisi Newid Sefydliadol ar gyfer GIG Cymru, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r Undebau Llafur.  Gellir gweld y ddogfen lawn ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn:

http://wales.gov.uk/topics/health/nhswales/partnershipforum/?lang=cy

Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod yr holl gyn Uwch Reolwyr (Swyddogion Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau Gweithredol o’r Bwrdd) a gyflogwyd gan yr hen Ymddiriedolaethau GIG a Byrddau Iechyd Lleol bellach wedi cael eu cyflogi mewn swyddogaethau newydd neu nad ydynt bellach yn cael eu cyflogi gan GIG Cymru. (WAQ55049)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa ganran o Uwch Reolwyr (Swyddogion Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau Gweithredol o’r Bwrdd cyn ad-drefnu) yr hen Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG sydd yn dal yn cael eu cyflogi yn GIG Cymru a faint o bobl yw hyn. (WAQ55050)

Rhoddwyd ateb ar 10 Chwefror 2010

Gallaf gadarnhau, ac eithrio staff sydd wedi ymddeol neu ymddiswyddo, fod yr holl gyn Uwch Reolwyr (Gweithredwyr, Cyfarwyddwyr ac Aelodau Byrddau Gweithredol) a gyflogwyd gan hen Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd Lleol y GIG yn parhau i gael eu cyflogi yn y GIG, naill ai mewn rolau newydd neu mewn perthynas â gwaith ystyrlon wrth i strwythurau sefydliadol gael eu datblygu.  Nodir trefniadau ar gyfer rheoli newid sefydliadol ym "Mholisi Newid Sefydliadol GIG Cymru" a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Undebau Llafur. Mae'r ddogfen hon ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn:

http://wales.gov.uk/topics/health/nhswales/partnershipforum/?lang=cy

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Sut y mae Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael ei chyllido. (WAQ55042)

Rhoddwyd ateb ar 09 Tachwedd 2009

Y Dirprwy Weinidog dros Adfywio (Leighton Andrews): Ariennir y Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar y cyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r Gronfa Loteri Fawr. Mae hyd at £13 miliwn ar gael i ni i'w fuddsoddi mewn prosiectau ledled Cymru.  Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyfrannu hyd at £8 miliwn a bydd y Gronfa Loteri Fawr yn cyfrannu hyd at £6 miliwn i'r cyfanswm.  Yn ogystal â'r rhaglen grantiau, rhoddir contract cymorth ar waith hefyd i ymgeiswyr, a chytunir ar y manylion ynghylch hyn ar hyn o bryd.