03/07/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 3 Gorffennaf 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 3 Gorffennaf 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mike German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y toriad mewn cyllid i Dîm Coginio Cymru a’r effaith y gallai’r toriad ei gael ar berfformiad y tîm dros y flwyddyn i ddod? (WAQ51931)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Rhoddir cymorth i’r Tîm Coginio o dan gynllun grant hyrwyddo cystadleuol, sydd â chyllideb gyffredinol o £114,400. Roedd y cynllun hwn wedi’i ordanysgrifio’n sylweddol oherwydd cafwyd 24 o geisiadau a oedd yn gofyn am dros £290,000 o gyllid.

Cymeradwywyd cyllid grant hyrwyddo o £41,000 yn ystod 2008/09 ar gyfer pedair menter sy’n ceisio gwella sgiliau cystadlu cogyddion o fewn y sector lletygarwch. Mae hon yn gyfran uchel o’r gyllideb o £114,400 sydd ar gael.

Cyflwynodd Cymdeithas Coginio Cymru geisiadau ar gyfer tri phrosiect a chafodd gyllid o £36,000 ar gyfer y tri. Credaf mai’r prosiect dan sylw yw’r prosiect Rhyngwladol a gafodd gymorth grant o £10,000. Dyfarnwyd grant o £25,000 y llynedd, ond eleni ystyriwyd bod rhai o’r costau’n ormodol ac felly gwtogwyd y grant. Ystyriwyd y cyfanswm a ddyrannwyd i’r gymdeithas ar draws y tri phrosiect ac ystyriwyd pob prosiect ar sail ei rinweddau.

Barnwyd yr holl geisiadau yn erbyn meini prawf penodol.