Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Mehefin 2009 i’w hateb ar 3 Gorffennaf 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd fydd yr adolygiad TAN 6 yn dechrau a beth fydd strwythur a nodau’r adolygiad. (WAQ54438)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd yr Arolwg Sylfaenol a wnaed ar y cyd â thrwydded garthu Helwick Bank. (WAQ54442)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa ymrwymiadau a roddwyd i drefnwyr y Cwpan Ryder ynghylch gwariant yng Nghymru i annog mwy o bobl i chwarae golff. (WAQ54439)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion am holl wariant Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda’r bwriad o annog mwy o bobl i chwarae golff ym mhob un o’r 6 blynedd diwethaf. (WAQ54440)