03/09/2009 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd i’w hateb ar 3 Medi 2009

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod holl adroddiadau, datganiadau i’r wasg a strategaethau’r Llywodraeth yn cael eu hysgrifennu mewn iaith glir a dealladwy. (WAQ54727)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi dadansoddiad, fesul adran, o sawl cais Rhyddid Gwybodaeth a wrthodwyd, yn llawn neu yn rhannol, ar gyfer pob blwyddyn er 2000, gan roi’r rheswm dros bob un. (WAQ54729)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi dadansoddiad, fesul adran, o faint sydd wedi cael ei wario ar wasanaethau gyrwyr gan ddefnyddio ceir Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pob blwyddyn er 2000. (WAQ54730)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi dadansoddiad, fesul adran, o faint o filltiroedd y mae ceir Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi eu teithio ar gyfer pob blwyddyn er 2000. (WAQ54731)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi dadansoddiad, fesul adran, o faint sydd wedi cael ei wario ar dacsis ar gyfer pob blwyddyn er 2000. (WAQ54732)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi manylion cyfanswm nifer yr achlysuron pan gafodd teithwyr eu gadael ar ôl oherwydd bod y trenau’n llawn ar reilffordd Cwm Rhymni ar gyfer pob un o’r 12 mis diwethaf. (WAQ54738)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y myfyrwyr sy’n gweithio yn ei adran; y cylch gorchwyl sy’n berthnasol i’w penodiad; y tâl a gânt; a pha mor hir y bydd penodiad myfyriwr yn para ar gyfartaledd. (WAQ54740)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Faint o staff yn adran y Gweinidog sydd ar "absenoldeb garddio”. (WAQ54742)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Faint o weithwyr yr hen Awdurdod Datblygu Cymru sydd yn dal ar gontractau dros dro gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ54743)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiffyg pensiwn Awdurdod Datblygu Cymru a sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu cydbwyso taliadau. (WAQ54744)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi gwybod pa dystiolaeth wyddonol benodol sydd ar gael, ac eithrio rhagfynegiadau damcaniaethol, y bydd datblygu trydan a gynhyrchir gan wynt yng Nghymru yn lleihau ein hôl troed carbon. (WAQ54722)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): A fydd y Gweinidog yn rhoi copi o’r 'Canllawiau Cost Derbyniol’ ar gyfer Tai Fforddiadwy yn Llyfrgell yr Aelodau. (WAQ54726)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y myfyrwyr sy’n gweithio yn ei adran; y cylch gorchwyl sy’n berthnasol i’w penodiad, y tâl a gânt; a pha mor hir y bydd penodiad myfyriwr yn para ar gyfartaledd. (WAQ54741)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa ymgyrchoedd y mae Adran y Gweinidog wedi’u cynnal i godi ymwybyddiaeth o ganser y fron mewn dynion yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. (WAQ54719)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o gyn-filwyr y lluoedd arfog sydd wedi cael gofal blaenoriaeth y GIG yng Nghymru ym mhob un o'r 10 mlynedd diwethaf. (WAQ54721)

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw welliannau a welwyd yn y nifer sy’n cael y brechlyn MMR yng Nghymru, ar ôl lansio ymgyrch "defnyddio” ddiweddar Llywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ54724)

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog roi datganiad manwl, gan ddyfynnu ffigurau pan fydd hynny’n bosibl, am effaith lawn ymgyrch Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella’r nifer sy’n defnyddio’r brechlyn MMR yng Nghymru. (WAQ54725)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud i ddiwallu ei hymrwymiad Cymru’n Un i ddileu defnyddio ysbytai’r sector preifat yn y GIG erbyn 2011. (WAQ54733)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o gyllid y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wario ar ofal lliniarol yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 2003. (WAQ54734)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn monitro ei chynnydd at gyflawni glanweithdra gwell mewn ysbytai. (WAQ54735)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog wedi’u cymryd i wella mynediad i ffonau a setiau teledu ar gyfer cleifion ysbytai. (WAQ54736)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r adolygiadau a gafodd gan Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro yn ystod y 12 mis diwethaf ac egluro a yw canfyddiadau pob un bellach ar gael i’r cyhoedd. (WAQ54737)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o ffermwyr (a) llaeth, (b) âr, (c) eidion a (d) defaid sydd ym mhob ardal Awdurdod Unedol yng Nghymru. (WAQ54718)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o ffermwyr llaeth oedd yng Nghymru ym mhob un o’r tair blynedd diwethaf a (a) faint a ymunodd â’r sector a (b) faint a adawodd y sector ym mhob blwyddyn. (WAQ54720)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae’n bwriadu eu cymryd sy’n gwahardd protestiadau yn erbyn y cynnig i ddifa moch daear. (WAQ54728)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa drefniadau sydd ar waith i gefnogi ffermwyr y daw eu cytundebau Tir Gofal i ben cyn dechrau’r cynllun Glastir. (WAQ54739)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint a pha gyfran o (a) dynion a (b) menywod a gafodd ddiagnosis eu bod yn ddibynnol ar alcohol ac o’r rheini a gafodd ddiagnosis eu bod yn ddibynnol ar alcohol faint a oedd dan 18 oed ac yn (a) dynion a (b) menywod yng Nghymru ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ54717)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer grwpiau gwirfoddol bach dan y fenter Llawr Gwlad. (WAQ54723)