03/10/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 3 Hydref 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 3 Hydref 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Mike German (Dwyrain De Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cyflwyno unrhyw sylwadau i’r Gymdeithas Gweithredwyr Trenau ynghylch datblygu rhestr o flaenoriaethau ar gyfer gwella’r rheilffyrdd yng Nghymru? (WAQ50423)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Mae swyddogion wedi bod yn cydweithio â Chymdeithas y Cwmnïau Trenau (ATOC) yn ystod y broses o baratoi Asesiad Cynllunio Rheilffyrdd Cymru a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2007. Mae fy swyddogion hefyd yn gweithio gydag ATOC i helpu i gwmpasu Strategaeth y Defnydd o Lwybrau Network Rail.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i gyhoeddi canllawiau cynllunio ynghylch darparu toiledau cyhoeddus hygyrch, cyfartal a digonol ar gyfer dynion a menywod? (WAQ50410)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Rwy’n eich cyfeirio at yr ateb i WAQ50412, a anfonwyd atoch gan fy nghyd-Weinidog, Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pryd fydd Cymru’n cyflwyno cyfarwyddebau comisiynu ar gyfer gofal anadlol? (WAQ50414)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Bydd y Cyfarwyddebau ar Ddatblygu a Chomisiynu Gwasanaethau ar gyfer Cyflyrau Anadlol Cronig yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd mis Hydref 2007. Mae cynlluniau ar y gweill ar hyn o bryd i lansio’r ddogfen yn swyddogol ar Ddiwrnod Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint ar 14eg Tachwedd.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i gyhoeddi canllawiau ynghylch darparu toiledau cyhoeddus hygyrch, cyfartal ar gyfer dynion a menywod? (WAQ50412)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Mae Adran 87(3)(c) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 yn cael ei diwygio gan Lywodraeth y DU er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr godi tâl am ddefnyddio pob toiled a throethfa. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol i roi’r gyfraith ar waith yn gyfartal pe byddent yn penderfynu codi tâl yn ogystal â’u galluogi i adennill costau cynnal a chadw o ran darparu cyfleusterau o’r fath i’r cyhoedd.

Mae cyflwyno’r Datganiadau Hygyrchedd i gyd-fynd â cheisiadau cynllunio eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr roi ystyriaeth gynnar i sut y bydd y llwybrau allanol at eu datblygiadau yn hygyrch i bawb. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Canllawiau drafft ar Ddatganiadau Hygyrchedd drafft ac mae’r ymatebion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd ochr yn ochr â sut y bydd y canllawiau yn integreiddio â’r newidiadau arfaethedig i’r canllawiau ar ddatganiadau dylunio ac adolygiadau i TAN 12. Fodd bynnag Rhan M y rheoliadau adeiladu ddylai fynd i’r afael â dimensiynau mewnol a chynllun toiledau cyhoeddus.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i wneud darpariaeth toiledau a glanhau yn gyfrifoldeb statudol i lywodraeth leol? (WAQ50422)

Brian Gibbons: Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i wneud darparu a glanhau toiledau yn un o gyfrifoldebau statudol Llywodraeth Leol.

Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeddfwriaeth sylfaenol ac nid oes gan Lywodraeth y Cynulliad gynlluniau i wneud y fath newid. Mae Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol Llywodraeth y DU yn gweithio i gynhyrchu Canllaw Strategol ar Fynediad Cyhoeddus i Doiledau erbyn mis Tachwedd. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu cyflwyno diwygiad i adran 87 (3) (c) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 a fydd yn caniatáu i awdurdodau lleol godi tâl am ddefnyddio toiledau cyhoeddus gan gynnwys troethfeydd. Bydd y diwygiad hwn yn berthnasol i Gymru a Lloegr a disgwylir y bydd ar waith erbyn mis Rhagfyr 2007.