04/02/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 4 Chwefror 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 4 Chwefror 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o ymarferion ymgynghori a gynhaliwyd ar eu hadran er 1999? (WAQ50964) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynilion a wnaethpwyd drwy ymyriadau ymgynghorwyr yn adran y Gweinidog er 1999? (WAQ50965) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth fu cost defnyddio ymgynghorwyr yn adran y Gweinidog er 1999? (WAQ50966) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Byddai costau darparu’r wybodaeth hon yn afresymol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o ymarferion ymgynghori a gynhaliwyd ar eu hadran er 1999? (WAQ50992) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynilion a wnaethpwyd drwy ymyriadau ymgynghorwyr yn adran y Gweinidog er 1999? (WAQ50991) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth fu cost defnyddio ymgynghorwyr yn adran y Gweinidog er 1999? (WAQ50990) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Byddai costau darparu’r wybodaeth hon yn afresymol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o ymarferion ymgynghori a gynhaliwyd ar eu hadran er 1999? (WAQ50977)

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynilion a wnaethpwyd drwy ymyriadau ymgynghorwyr yn adran y Gweinidog er 1999? (WAQ50976)

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth fu cost defnyddio ymgynghorwyr yn adran y Gweinidog er 1999? (WAQ50975)

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Byddai costau darparu’r wybodaeth hon yn afresymol.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi defnyddio cyllidebau sy’n cael eu dal yn ganolog ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ51006)

Andrew Davies: Defnyddir cyllidebau a gedwir yn ganolog yn bennaf i ariannu’r broses o weithredu llety a systemau TGCh Llywodraeth y Cynulliad; a rhai gwasanaethau a reolir yn ganolog megis hyfforddiant a chyfieithu.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth fu cost defnyddio ymgynghorwyr yn adran y Gweinidog er 1999? (WAQ50970) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynilion a wnaethpwyd drwy ymyriadau ymgynghorwyr yn adran y Gweinidog er 1999? (WAQ50971) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o ymarferion ymgynghori a gynhaliwyd ar eu hadran er 1999? (WAQ50972) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Byddai costau darparu’r wybodaeth hon yn afresymol.

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd o ran newid hawliau datblygu a ganiateir er mwyn cynnwys technolegau microgynhyrchu? (WAQ51051)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad gynigion ar gyfer newid hawliau datblygu a ganiateir er mwyn cefnogi’r broses o ddarparu cyfarpar microgynhyrchu gan ddeiliad tai y llynedd mewn papur ymgynghori o’r enw 'Codi Rhwystrau Cynllunio ar Ficro-gynhyrchu Ynni Domestig: Newidiadau Arfaethedig i Hawliau Datblygu a Ganiateir’.

Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ym mis Tachwedd. Mae’r ymatebion, gan gynnwys rhai gan Blaid Cymru, yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd. Byddwn yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth ddiwygio yn yr Hydref.

Un o’r materion allweddol a nodir yn yr ymatebion yw’r angen i gael safonau cyfarpar microgynhyrchu sicrhau ansawdd priodol ar waith cyn newid y rheoliadau datblygu presennol a ganiateir. Cododd hyn bryderon am lefelau sŵn a dirgryndod i'r adeiladau cyfagos a achosir gan rai o’r tyrbinau gwynt a osodir ar dai pâr neu dai teras. Y bwriad yw cael cynnyrch Sefydliad Ymchwil Adeiladu a gymeradwyir gan y DU a chynllun ardystio gosodwr ar waith, a fydd, pan fydd ar gael, yn darparu’r mesurau diogelwch priodol. Bydd hyn yn effeithio rhywfaint ar ein hamserlen ond yr wyf yn ymrwymedig i gyflwyno estyniadau addas i hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer microgynhyrchu gan ddeiliaid tai cyn gynted â phosibl, a fydd yn gyson ag ystyriaethau amgylcheddol eraill.

Ar y cyd â’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, yr ydym wedi comisiynu gwaith ymchwil i’r potensial ar gyfer newidiadau tebyg er mwyn darparu cyfarpar microgynhyrchu o ran adeiladau masnachol a chynlluniau cymunedol. Cyhoeddwyd adroddiad ymchwil terfynol yr ymgynghorydd yr wythnos diwethaf (30 Ionawr). Mae’r broses o ystyried yr argymhellion wedi dechrau, fel y gellir nodi pa gynigion y byddwn yn gobeithio ymgynghori arnynt yn ddiweddarach eleni.

Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Adran Masnach a Diwydiant ynghylch materion sy’n ymwneud â thalu am drydan a allforir o ficrogynhyrchu? (WAQ51052)

Jane Davidson: Nid wyf wedi cael trafodaethau uniongyrchol gyda’r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio ar y mater penodol hwn, ond yr wyf wedi cynnal trafodaethau â chyflenwyr.

Yr wyf yn ymrwymedig i oresgyn pob rhwystr sy’n atal y broses o osod cyfarpar microgynhyrchu cyn belled ag y bo’n ymarferol, gan gynnwys annog y cwmnïau cyfleustodau i dalu pris teg am allforio trydan a gynhyrchir yn lleol i’r grid.

Mae ein polisi cyfredol wedi’i nodi yn ein Cynllun Gweithredu Microgynhyrchu.

Yn 'Cymru’n Un’, yr ydym yn ymrwymedig i lunio Strategaeth Ynni i gynnwys, ymhlith pethau eraill, camau gweithredu o ran microgynhyrchu.  

Bydd microgynhyrchu hefyd yn rhan bwysig o'n hymgynghoriad ar Fap Llwybr Ynni Adnewyddadwy maes o law; a bydd gan Aelodau’r Cynulliad y cyfle i drafod microgynhyrchu yng nghyd-destun trafodaeth ar Newid yn yr Hinsawdd—Ynni Adnewyddadwy ar 19 Chwefror.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o ymarferion ymgynghori a gynhaliwyd ar eu hadran er 1999? (WAQ50987) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynilion a wnaethpwyd drwy ymyriadau ymgynghorwyr yn adran y Gweinidog er 1999? (WAQ50986) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth fu cost defnyddio ymgynghorwyr yn adran y Gweinidog er 1999? (WAQ50985) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Byddai costau darparu’r wybodaeth hon yn afresymol.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion nifer y staff sy’n gweithio i’r adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ51080)

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 4 Chwefror 2008
 

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1999/2000

383

2000/2001

437

2001/2002

481

2002/2003

732

2003/2004

760

2004/2005

732

2005/2006

803

2006/2007

815

Ebrill-Rhagfyr 2007

848

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw cost ddyddiol un achos o oedi wrth drosglwyddo gofal yng Nghymru? (WAQ51081)

Edwina Hart: Cost gwirioneddol achosion o oedi wrth drosglwyddo yw cost cyfle triniaeth rhywun arall yn cael ei hoedi. Eir i’r afael â hyn yn systematig. Nid yw’n bosibl rhoi rhif syml ar gost yr oedi.  Gwyddom fod y gost gyfartalog o ddarparu gwely yn 2006-07 (y ffigurau cyflawn diweddaraf sydd ar gael) yn amrywio rhwng meysydd arbenigol o £204 y dydd ar gyfer adsefydlu i £1,078 ar gyfer llawdriniaeth gardiothorasig.  Mae angen i ni hefyd gydnabod bod nifer sylweddol o bobl sy’n gorfod aros cyn cael eu trosglwyddo yn aros am wasanaethau amgen megis gofal parhaus y GIG mewn lleoliad newydd, gwasanaethau eraill y GIG neu ofal arall yn y gymuned. Felly oni fyddai’r broses o’u trosglwyddo wedi’i hoedi, byddai’n rhaid bod wedi talu am y gwasanaethau hyn hefyd.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion nifer y bobl sy’n cael gofal deintyddol ar hyn o bryd gan ddeintydd GIG yng Nghymru, a nifer y bobl a gafodd ofal deintyddol GIG gan gwmni preifat? (WAQ51090)

Edwina Hart: Cofnodwyd bod 1.64 miliwn o gleifion wedi cael gofal deintyddol y GIG yn ystod y 24 mis hyd at 31 Mawrth 2007, sy’n cyfrif am 56 y cant o’r boblogaeth; 65 y cant o’r boblogaeth plant a 53 y cant o’r boblogaeth oedolion.

Ni chaiff data ar gyfer nifer y cleifion a gaiff eu trin o dan drefniadau preifat ei gasglu yn ganolog.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o ymarferion ymgynghori a gynhaliwyd ar eu hadran er 1999? (WAQ51002) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynilion a wnaethpwyd drwy ymyriadau ymgynghorwyr yn adran y Gweinidog er 1999? (WAQ51001) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth fu cost defnyddio ymgynghorwyr yn adran y Gweinidog er 1999? (WAQ51000) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Byddai costau darparu’r wybodaeth hon yn afresymol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o ymarferion ymgynghori a gynhaliwyd ar eu hadran er 1999? (WAQ50997) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynilion a wnaethpwyd drwy ymyriadau ymgynghorwyr yn adran y Gweinidog er 1999? (WAQ50996) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth fu cost defnyddio ymgynghorwyr yn adran y Gweinidog er 1999? (WAQ50995) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Byddai costau darparu’r wybodaeth hon yn afresymol.

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddiad ei hadran mewn rheoli clefydau anifeiliaid? (WAQ51018)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Fel rhan o’r ddogfen 'Cymru'n Un—Rhaglen flaengar ar gyfer llywodraethu Cymru’, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo ei hun i 'fynd ati’n ddyfal i gynnal rhaglen i ddileu TB mewn gwartheg’. I’r perwyl hwn  yr ydym wedi nodi a dyrannu £27 miliwn ychwanegol dros y tair blynedd ariannol nesaf er mwyn cefnogi’r ymrwymiad hwn.

Lansiwyd Cynllun Genoteipio Mamogiaid Cymru II (WEGS II) ym mis Mehefin 2003 fel cynllun tair blynedd. Cafodd ei ymestyn ym mis Ebrill 2006 am ddwy flynedd arall a daw’r cynllun i ben ar 31 Mawrth 2008. Erbyn i’r cynllun gael ei gau, amcangyfrifir y bydd 620,000 o ddefaid wedi’u samplu a’u genoteipio ar ran y 1,586 o bobl sy’n cymryd rhan yn y cynllun a bydd wedi costio £11 miliwn.

Fel rhan o’r ymdrechion parhaus i gynnal statws 'Rhydd o Frwselosis yn Swyddogol’ Prydain Fawr, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu £81,000 y flwyddyn ar gyfer y costau sy’n gysylltiedig â'r broses o gynnal profion misol ar laeth wedi’i swmpgasglu o wartheg godro Cymru.

Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn gobeithio cefnogi ymgyrch i fynd i’r afael â chlefyd Hydatid sy’n destun proses dendro ar hyn o bryd.

Nick Ramsay (Mynwy): A yw’r Gweinidog yn cydnabod Adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig a ddaeth i’r casgliad y byddai rhagor o fioddiogelwch ar ffermydd ynghyd â rheoli TB mewn poblogaethau bywyd gwyllt yn rheoli’r clefyd? (WAQ51019)

Elin Jones: Fel y gwyddoch, mae TB yn cael effaith ddinistriol ar y diwydiant ffermio yng Nghymru a dyma pam bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sicrhau £27 miliwn ychwanegol i fynd ati’n ddyfal i gynnal rhaglen i ddileu TB mewn gwartheg yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf. Bydd adroddiad Ymchwiliad yr Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig i dwbercwlosis buchol yng Nghymru yn chwarae rhan yn y broses o ddatblygu’r rhaglen dileu TB  yr ydym yn ei datblygu ar hyn o bryd. Yn amlwg bydd angen amser arnaf i ystyried canfyddiadau’r adroddiad yn fanwl dros y tymor hir. Byddaf yn ymateb yn llawnach pan fyddaf hefyd mewn sefyllfa i roi gwybodaeth am raglen dileu TB y Llywodraeth yn fwy manwl.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog roi manylion faint o hawliadau taliad sengl na chawsant eu hysgogi yn ystod ffenestr talu eleni? (WAQ51020)

Elin Jones: Ar sail y lefel bresennol o daliadau Cynllun y Taliad Sengl 2007 a wnaed mae cyfanswm nifer yr hawliadau na weithredwyd arnynt gan ffermwyr Cymru yn 39,428.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cyfanswm gwerth yr hawliadau taliad sengl na chawsant eu hysgogi gan ffermwyr Cymru? (WAQ51021)

Elin Jones: Ar sail y lefel bresennol o daliadau Cynllun y Taliad Sengl 2007 a wnaed mae cyfanswm gwerth yr hawliadau na weithredwyd arnynt gan ffermwyr Cymru yn €6.9 miliwn.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sefyllfa gyfredol yng nghyswllt iawndal i ffermwyr yr oedd argyfwng clwy’r traed a’r genau wedi effeithio arnynt? (WAQ51050)

Elin Jones: Yr wyf yn parhau i gyflwyno cynrychiolaeth gref i’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yn gofyn i Lywodraeth y DU roi arian ychwanegol ar sail Prydain Fawr er mwyn lliniaru’r effaith economaidd ar ffermio yng Nghymru ac mewn ardaloedd eraill o ganlyniad uniongyrchol i’r achosion o glefydau anifeiliaid yn Lloegr.

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cael gwared ar TB mewn gwartheg yng Nghymru? (WAQ51017)

Elin Jones: Fel rhan o’r ddogfen 'Cymru’n Un—Rhaglen flaengar ar gyfer llywodraethu Cymru’, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo ei hun i 'fynd ati’n ddyfal i gynnal rhaglen i ddileu TB mewn gwartheg’. I’r perwyl hwn yr ydym wedi nodi a dyrannu £27 miliwn ychwanegol dros y tair blynedd ariannol nesaf er mwyn cefnogi’r ymrwymiad hwn. Bydd y rhaglen i ddileu TB sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd yn ystyried bob agwedd o bolisi TB buchol, gan gynnwys goruchwylio a rheoli gwartheg, mesurau bywyd gwyllt ac arferion hwsmonaeth sy’n cynnwys bioddiogelwch gwell.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o ymarferion ymgynghori a gynhaliwyd ar eu hadran er 1999? (WAQ50982) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynilion a wnaethpwyd drwy ymyriadau ymgynghorwyr yn adran y Gweinidog er 1999? (WAQ50981) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth fu cost defnyddio ymgynghorwyr yn adran y Gweinidog er 1999? (WAQ50980) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Byddai costau darparu’r wybodaeth hon yn afresymol.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion a dyddiadau unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael neu y bydd yn eu cael gydag arweinwyr llywodraeth leol ynghylch effaith y codiadau rhagamcanol mewn prisiau nwy ar eu cyllidebau? (WAQ51061)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Yr wyf wedi ystyried y pwysau sy’n wynebu llywodraeth leol o ran costau gan gynnwys y costau hynny sy’n gysylltiedig â phrisiau nwy wrth bennu’r setliad llywodraeth leol. Yn ystod y broses ymgynghori ar y setliad dros dro rwyf wedi cynnal trafodaethau gydag arweinwyr llywodraeth leol. Yr wyf bellach wedi cyhoeddi’r setliad terfynol. Mae hwn yn setliad realistig mewn hinsawdd ariannol tynn a chyfrifoldeb yr awdurdodau unigol ydyw bellach i reoli’r costau maent yn eu hwynebu drwy ddefnyddio eu cyllidebau yn effeithiol ac yn effeithlon.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith y codiadau rhagamcanol mewn prisiau petrol, nwy a thrydan ar y gyllideb ar gyfer Awdurdod Lleol Powys, ac a yw’n bwriadu cynnal trafodaethau gydag Awdurdod Lleol Powys am y mater hwn? (WAQ51062)

Brian Gibbons: Yr wyf wedi ystyried y pwysau sy’n wynebu llywodraeth leol o ran costau gan gynnwys y costau hynny sy’n gysylltiedig â phrisiau tanwydd wrth bennu’r setliad llywodraeth leol. Yn ystod y broses ymgynghori ar y setliad dros dro yr wyf wedi cynnal trafodaethau gyda llywodraeth leol gan gynnwys cynrychiolwyr Cyngor Sir Powys. Yr wyf bellach wedi cyhoeddi’r setliad terfynol. Mae hwn yn setliad realistig mewn hinsawdd ariannol tynn a chyfrifoldeb yr awdurdodau unigol ydyw bellach i reoli’r costau maent yn eu hwynebu drwy ddefnyddio eu cyllidebau yn effeithiol ac yn effeithlon.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda heddluoedd Cymru ynghylch dyfarniad cyflafareddu Cyflog yr Heddlu? (WAQ51065)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch dyfarniad cyflafareddu Cyflog yr Heddlu? (WAQ51068)

Brian Gibbons: Cyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Gwladol yw polisi cyflogau’r heddlu gan nad yw’n fater datganoledig. Fodd bynnag, yr wyf wedi rhoi sylwadau iddi ar ran Llywodraeth y Cynulliad ac Aelodau’r Cynulliad ar y mater. Cyfarfûm â chynrychiolwyr o’r pedwar awdurdod heddlu ar 8 Ionawr i drafod materion ariannol ond ni thrafodwyd cyflogau yn benodol. Nid wyf wedi cael unrhyw sylwadau Gweinidogol gan awdurdodau’r heddlu na sefydliadau eraill sydd â diddordeb yn y mater.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi eu cyflwyno i’r Swyddfa Gartref ynghylch dyfarniad cyflafareddu Cyflog yr Heddlu? (WAQ51066)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Swyddfa Gartref ynghylch dyfarniad cyflafareddu Cyflog yr Heddlu? (WAQ51067)

Brian Gibbons: Mater i’r Ysgrifennydd Gwladol yw cyflogau’r heddlu. Cadarnheais yn ystod y drafodaeth plaid Leiafrifol yn y Cyfarfod Llawn ar gymorth i’r Heddlu ar 30 Ionawr fy mod wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn mynegi siom Llywodraeth y Cynulliad ac Aelodau’r Cynulliad gyda’r penderfyniad i beidio â bodloni argymhelliad yr Adolygiad annibynnol o Gyflogau’r Heddlu yn llwyr.