Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 28 Ionawr 2010 i’w hateb ar 04 Chwefror 2010
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud at gyflawni cysylltiad rheilffordd cyflym rhwng Llundain a De Cymru. (WAQ55565)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud at gynhyrchu pecyn rheoleiddio drafft yng nghyswllt bagiau siopa untro, fel y cyfeirir ato yn natganiad llafar y Gweinidog ar 3 Tachwedd 2009. (WAQ55567)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion y cyfarfodydd y mae wedi'u cael gyda'r prif randdeiliaid yng nghyswllt y cynigion i godi ardoll am fagiau siopa untro. (WAQ55568)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud at sefydlu grŵp llywio o randdeiliaid allweddol yng nghyswllt cynigion i godi ardoll am fagiau siopa untro, fel y cyfeirir ato yn natganiad llafar y Gweinidog ar 3 Tachwedd 2009. (WAQ55569)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion y rhanddeiliaid allweddol sy'n ymwneud â'r grŵp llywio yng nghyswllt cynigion i godi ardoll am fagiau siopa untro, fel y cyfeirir ato yn ei datganiad llafar ar 3 Tachwedd 2009. (WAQ55570)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion trafodaethau sy'n cynnwys y grŵp llywio o randdeiliaid allweddol yng nghyswllt cynigion i godi ardoll am fagiau siopa untro, fel y cyfeirir ato yn ei datganiad llafar ar 3 Tachwedd 2009. (WAQ55571)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o arian y mae'r Gweinidog wedi'i neilltuo ar gyfer Uned Cefnogaeth Rhagnodi Dadansoddol Cymru (WAPSU) ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. (WAQ55563)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o argymhellion Adolygiad Routledge sydd wedi cael eu rhoi ar waith. (WAQ55564)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa lefel o drafodaeth a gafodd y Gweinidog neu ei swyddogion â Gweinidog y DU cyn gwneud y penderfyniad ynghylch safle Cymru ar becyn iawndal Thalidomide. (WAQ55572)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sylwadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Tai Gwyliau wedi'u Dodrefnu yn ystod y chwe mis diwethaf. (WAQ55566)