Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 04 Gorffennaf 2007
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Mike German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r holl ardaloedd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cael gwybod eu bod yn ardaloedd digyswllt, drwy Arsyllfa Band Eang Cymru. (WAQ50127)
Christopher Franks (Canol De Cymru): Beth yw polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch sut y dylai derbyniadau a geir drwy werthu tir ar lân y dŵr yng Nghymru gael eu hail-fuddsoddi yn y gymuned leol. (WAQ50135)
Christopher Franks (Canol De Cymru): Sut gall Llywodraeth Cynulliad Cymru helpu Bwrdd Partneriaeth Adfywio’r Barri i gadw ac ail-fuddsoddi derbyniadau tir yn yr un modd â chwmnïau adfywio Casnewydd ac Abertawe. (WAQ50136)
Christopher Franks (Canol De Cymru): Faint o arian sydd neu a fydd wedi cael ei dderbyn gan (i) Llywodraeth Cynulliad Cymru a (ii) Cyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad drwy werthu tir ar lân y dŵr yn y Barri gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain. (WAQ50137)
Christopher Franks (Canol De Cymru): Sut y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwario derbyniadau a geir drwy werthu tir ar lan y dŵr yn y Barri. (WAQ50138)
Christopher Franks (Canol De Cymru): Pa sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch sut y caiff derbyniadau o werthu tir ar lan y dŵr yn y Barri eu gwario. (WAQ50139)
Christopher Franks (Canol De Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi ei rhoi i ddarparu cyllid i Fwrdd Partneriaeth Adfywio’r Barri dros gyfnod hwy na blwyddyn. (WAQ50143)
Christopher Franks (Canol De Cymru): Pa gyllid y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i ddarparu i Fwrdd Partneriaeth Adfywio’r Barri bob blwyddyn er 2003. (WAQ50144)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu Macugen i ddioddefwyr Dirywiad Macwlaidd yng Nghymru. (WAQ50128)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu Lucentis i ddioddefwyr Dirywiad Macwlaidd yng Nghymru. (WAQ50129)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal ynghylch posibilrwydd safle radiotherapi lloeren yn Ysbyty Henffordd a fyddai’n cysylltu â Cheltenham. (WAQ50130)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i bosibilrwydd darparu triniaeth cemotherapi mewn ysbytai cymunedol ym Mhowys, wedi’i gweinyddu gan ysbyty Henffordd. (WAQ50131)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i adroddiad diweddar y Grŵp Radiotherapi Ymgynghorol Cenedlaethol, sy’n argymell na ddylai unrhyw un deithio mwy na 45 munud i gael triniaeth. (WAQ50132)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus
Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad, fesul awdurdod lleol, o’r £828 miliwn a ddarparwyd i awdurdodau lleol yn y gogledd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2007/8. (WAQ50126)
Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o adroddiad arbennig Ombwdsmon Cyhoeddus Cymru ar ddyrannu tai a digartrefedd yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2006. (WAQ50133)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig
Christopher Franks (Canol De Cymru): Pa bwerau sydd gan y Gweinidog i orfodi awdurdodau lleol i gymryd camau brys i ddelio â llygredd aer. (WAQ50134)
Christopher Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r holl ohebiaeth a chyfarfodydd a gafodd hi neu ei rhagflaenydd ynghylch safle niwclear Oldbury er 2003. (WAQ50140)
Christopher Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal ynghylch safle niwclear Oldbury. (WAQ50141)
Christopher Franks (Canol De Cymru): Faint o arian a roddodd adran y Gweinidog a/neu Lywodraeth Cynulliad Cymru o’r neilltu i ddelio ag unrhyw gostau sy’n ymwneud ag unrhyw waith adferol angenrheidiol yn chwarel Bro Feisgyn ar gyfer pob blwyddyn ariannol er 2000. (WAQ50142)
Christopher Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru lleoliadau gwastraff niwclear sydd wedi’i storio yng Nghymru, faint a storiwyd a’r corff sy’n gyfrifol dros reoli’r gwastraff hwnnw. (WAQ50145)
Christopher Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r amserlen sylfaenol ar gyfer ymgynghori ar Gynlluniau Gweithredu Ansawdd Aer a’u gweithredu ar ôl i awdurdod lleol ganfod unrhyw lefelau llygredd aer sy’n uwch na’r lefelau statudol dan y rheoliadau Ansawdd Aer. (WAQ50146)