Atebion a roddwyd i Aelodau ar 4 Hydref 2007
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i wella gwasanaethau sgrinio am ganser yng Nghymru? (WAQ50424)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Mae gan Gymru eisoes wasanaethau sgrinio ardderchog ar gyfer canser y fron a chanser serfigol. Ein gwelliant diweddaraf yw cyflwyno rhaglen sgrinio newydd ar gyfer canser y coluddyn, a ddylai gael ei gyflwyno erbyn diwedd 2008.
Mae’r holl broses o sgrinio yn cynnwys buddiannau a niwed posibl. Y nod bob amser yw gwneud y gorau o’r cyntaf tra’n cadw’r olaf i leiafswm. Dyna pam y caiff pedair Gweinyddiaeth Iechyd y DU eu cynghori gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, sydd â’r cyfrifoldeb o asesu’r holl raglenni sgrinio presennol ac arfaethedig yn erbyn y dystiolaeth sydd ar gael a’r safonau a gyhoeddwyd. Rwy’n ymrwymedig i wella’r prognosis a goroesiad pob claf â chanser a byddaf yn parhau i ystyried parhau, ehangu neu gyflwyno rhaglenni sgrinio’r boblogaeth er mwyn canfod canser yn gynnar, pan fo hynny’n addas ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Wasanaethau Trin Traed yng Nghymru? (WAQ50425)
Edwina Hart: Cyfrifoldeb y Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) yw darparu gwasanaethau trin traed.
Mae gan bodiatregyddion rôl bwysig i’w chwarae wrth ddarparu a moderneiddio gofal iechyd yng Nghymru ac mae podiatregyddion yng Nghymru wedi bod yn chwarae rhan yn broses o ddatblygu Strategaeth Therapi Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth yw amserlen Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer gwneud cais am ddatganoli rheoliadau adeiladau yng Nghymru? (WAQ50415)
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Bydd y Cabinet yn ystyried cyngor pellach yn fuan ar y broses o drosglwyddo pwerau Rheoliadau Adeiladu a gafodd ei lywio ar ôl trafodaethau gyda swyddogion CLG sydd wedi’u cynnal ers i’r Cabinet ystyried y mater y tro diwethaf.
O ystyried yr amserlen ar gyfer y broses o drosglwyddo mae hyn yn dibynnu ar gyrraedd cytundeb rhynglywodraethol a’r dulliau a’r cyfleoedd sydd ar gael unwaith y bydd cytundeb wedi’i wneud. Ar hyn o bryd ni allaf fod yn fwy penodol, fodd bynnag mae’r cyfuniad o’r ymrwymiad yn 'Cymru’n Un’ a’r dyhead am ddim carbon yn ein hadeiladau newydd erbyn 2011 yn golygu y byddwn yn gobeithio cymryd y cyfle cynharaf posibl.