05/02/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 29 Ionawr 2013 i’w hateb ar 5 Chwefror 2013

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog nodi pa gamau dilynol y mae wedi eu cymryd/y bydd yn eu cymryd mewn perthynas â'r daith fasnach i Dwrci. (WAQ62055)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa bryd y bydd taith fasnach busnesau Cymru i Dwrci yn digwydd a phwy fydd y Prif Weinidog yn eu gwahodd i fod yn bresennol. (WAQ62056)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio â Siambr Fasnach Prydain gan eu bod wedi cynnig darparu cymorth ymarferol ac arbenigedd yn ystod y daith fasnach i Dwrci. (WAQ62057)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl gwaith y mae’r Prif Weinidog wedi cwrdd â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru ers dechrau'r Pedwerydd Cynulliad a beth oedd dyddiadau’r cyfarfodydd hyn. (WAQ62060)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl gwaith y mae’r Prif Weinidog wedi cwrdd â’r Ffederasiwn Busnesau Bach ers dechrau'r Pedwerydd Cynulliad a beth oedd dyddiadau’r cyfarfodydd hyn. (WAQ62061)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yng ngoleuni bwriad Llywodraeth Cymru i brynu Maes Awyr Caerdydd, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a oedd Maes Awyr Caerdydd wedi gwneud unrhyw elw yn 2012 (WAQ62068)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa werth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar 'ewyllys da' o safbwynt prynu Maes Awyr Caerdydd. (WAQ62069)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gyda golwg ar ei ymateb i Arweinydd yr Wrthblaid yn y Cwestiynau i’r Prif Weinidog ar 29 Ionawr 2013, a wnaiff y Prif Weinidog ddarparu'r ystadegau a ffynhonnell y ffigurau allforio yr oedd yn cyfeirio atynt. (WAQ62075)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sut y mae’r Gweinidog yn bwriadu datblygu gwasanaethau Bancio Islamaidd yng Nghymru o gofio datganiad y Prif Weinidog ar ei daith fasnach i Dwrci. (WAQ62058)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl gwaith y mae’r Gweinidog wedi cwrdd â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru ers dechrau'r Pedwerydd Cynulliad a beth oedd dyddiadau’r cyfarfodydd hyn. (WAQ62059)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl gwaith y mae’r Gweinidog wedi cwrdd â’r Ffederasiwn Busnesau Bach ers dechrau'r Pedwerydd Cynulliad a beth oedd dyddiadau’r cyfarfodydd hyn. (WAQ62062)

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog nodi sawl cyfarfod y mae hi wedi’i gael ag Ysgrifennydd Gwladol Busnes, Arloesi a Sgiliau Llywodraeth y DU ers dechrau'r Pedwerydd Cynulliad, a beth oedd dyddiadau’r cyfarfodydd hyn. (WAQ62070)

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog nodi sawl cyfarfod y mae hi wedi’i gael â swyddogion Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau Llywodraeth y DU ers dechrau'r Pedwerydd Cynulliad, a beth oedd dyddiadau’r cyfarfodydd hyn. (WAQ62071)

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog nodi faint o ‘Sêr y Byd Gwyddonol’ sydd wedi cael eu denu i Gymru ers lansio'r cynllun Sêr Cymru ym mis Mawrth 2012. (WAQ62072)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ61952 a wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o aelwydydd gwledig sydd eto i’w cysylltu â’r prif gyflenwad nwy. (WAQ62063)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ61952 a wnaiff y Gweinidog nodi beth yw'r targed ar gyfer 2013 o ran cysylltu aelwydydd gwledig â'r prif gyflenwad nwy. (WAQ62064)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r addasiadau gwyrdd y caniateir i berchnogion tai yng Nghymru eu gwneud heb ganiatâd cynllunio. (WAQ62065)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i lacio rheolau cynllunio er mwyn galluogi perchnogion tai yng Nghymru i wneud cais am fesurau’r Fargen Werdd. (WAQ62066)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar Fargen Werdd Llywodraeth y DU a beth yw goblygiadau'r cynllun i Gymru. (WAQ62067)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw waith a wnaed i hyrwyddo argymhellion y Pwyllgor Cyllid yn yr adroddiad Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf. (WAQ62074)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r amserlen ar gyfer lansio Cynllun Cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer Anadlu. (WAQ62073)

William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog (a) nodi sut y caiff Teuluoedd yn Gyntaf ei fonitro; (b) pa mor aml yr adroddir arno; ac (c) sut y caiff arfer gorau ei rannu. (WAQ62087)

William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd Teuluoedd yn Gyntaf yn cynorthwyo â gwaith a wneir gan Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf. (WAQ62088)

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi’r 19 o Gymdeithasau Tai sy’n cael y Grant Refeniw Tai Cymdeithasol. (WAQ62076)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r holl gyfarfodydd a gynhaliwyd ag adeiladwyr tai mewn cysylltiad â'r cynllun gwarant morgais. (WAQ62077)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithrediad y cynllun gwarant morgais sydd i fod ar waith erbyn Gwanwyn 2013. (WAQ62078)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi sut y bydd y cynllun gwarant morgais a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2012 o gymorth i adeiladwyr yng Nghymru, y rhan fwyaf ohonynt yn Fusnesau Bach a Chanolig. (WAQ62079)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu manylion y cynlluniau cyflawni ar gyfer pob un o’r Clystyrau Cymunedau yn Gyntaf. (WAQ62080)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y sefydliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu gwasanaethau i ddioddefwyr trais domestig a’u nodau ar gyfer 2013. (WAQ62081)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael â’r Adran Drafnidiaeth yn benodol ynghylch y defnydd a wneir yng Nghymru o'r £20 miliwn a gyhoeddwyd ar 24/01/13 sydd ar gael ar gyfer gorsafoedd newydd. (WAQ62082)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Pa bryd y mae'r Gweinidog yn disgwyl y bydd y gweithlu a gyhoeddwyd yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 04/12/12 yn adrodd ar ei ganfyddiadau ynglyn â system drafnidiaeth integredig ar gyfer De Ddwyrain Cymru. (WAQ62083)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu nifer y teithwyr fel y’u cofnodwyd gan Lywodraeth Cymru ar y gwasanaeth bws cyflym rhwng Casnewydd a Thy-du gan fod y cynllun peilot 12 mis bellach wedi dod i ben. (WAQ62084)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at WAQ61067, lle y dywedodd y Gweinidog nad oes ganddo unrhyw gynlluniau i gyflwyno gwasanaethau sy’n stopio mewn nifer gyfyngedig o fannau, beth yw barn y Gweinidog am fwriad Network Rail yn CP5 i ddyblu ‘Tro Trefforest’ fel bod modd gweithredu gwasanaethau ‘cyflym’ rhwng Pontypridd a Chaerdydd. (WAQ62085)

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw ymarfer prawfesur gwledig a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r diwygiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar i gyllido bysus yng Nghymru. (WAQ62086)