05/05/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 5 Mai 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 5 Mai 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yn dilyn yr ateb i WAQ55814, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth y corff llywodraethu ysgol wrth benderfynu ar gategori iaith ysgol newydd, yn enwedig swyddogaeth y corff llywodraethu wrth wneud y penderfyniad hwn. (WAQ55965)

Rhoddwyd ateb ar 18 Mai 2010

Mae gan awdurdodau addysg lleol a hyrwyddwyr addysg eraill (er enghraifft Awdurdod Esgobaethol neu gorff Sylfaen) y pŵer i sefydlu ysgolion newydd. Daw'r pwerau hyn o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.  Mae'n annhebygol y byddai gan ysgol newydd gorff llywodraethu nes bod cynnig wedi'i gyflwyno i'w sefydlu. O dan y fath amgylchiadau mae'n gyffredin i gorff llywodraethu dros dro gael ei sefydlu rai misoedd ymlaen llaw i baratoi ar gyfer agoriad yr ysgol.

Er nad oes yn rhaid i'r rheoliadau cyfredol sy'n nodi cynnwys hysbysiadau cyhoeddus gynnwys datganiad ar natur ieithyddol yr ysgol, mae'r awdurdod lleol sy'n cynnig sefydlu'r ysgol newydd fel arfer yn cynnwys y fath ddatganiad. Byddai disgwyl bod yr awdurdod lleol wedi cynnal ymgynghoriad o'r fath ac asesiad o alw yn ôl yr angen cyn penderfynu pa fanylion i'w cynnwys yn yr hysbysiad o ran iaith. Os caiff cynigion ar gyfer ysgol newydd eu cymeradwyo, naill ai gan yr awdurdod lleol neu gan Weinidogion Cymru, rhaid rhoi cynigion ar waith yn unol â'r hysbysiad oni fydd addasiad wedi'i gymeradwyo gan Weinidogion Cymru. Mae'r ffordd y bydd yr ysgol newydd yn gweithredu o ddydd i ddydd, unwaith y'i sefydlir, yn fater i'r Pennaeth a'r corff llywodraethu penodedig, ond byddai disgwyl i'r ysgol weithredu yn unol â'r manylion a gynhwysir yn yr hysbysiad statudol.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw costau ad-drefnu’r GIG yng Nghymru ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad ar gyfer pob cost. (WAQ55966)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gostau sy’n gysylltiedig ag ad-drefnu’r GIG a dalwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a pha gostau a gafodd eu had-dalu i Fyrddau Iechyd Lleol. (WAQ55967)

Rhoddwyd ateb ar 11 Mai 2010

Sefydliadau'r GIG sydd wedi talu costau aildrefnu'r GIG gyda'u hadnoddau presennol. Ni roddwyd unrhyw arian ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac eithrio £2.897 miliwn i Fyrddau Iechyd i'w galluogi i dalu'r ffioedd archwilio ychwanegol a oedd yn gysylltiedig â chyfrifon canol y flwyddyn. Rwyf wedi rhoi Rhaglen Gwireddu Buddiannau ar waith i gyfrifo costau'r aildrefnu a sicrhau y caiff yr holl fuddiannau disgwyliedig eu gwireddu.