05/10/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 5 October 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 5 Hydref 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y myfyrwyr sy’n astudio ym Mhrifysgolion Cymru ar hyn o bryd. (WAQ54892)

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A oes cap ar hyn o bryd ar nifer y myfyrwyr a gaiff fynychu Prifysgolion Cymru ac os oes, beth yw hwnnw. (WAQ54893)

Rhoddwyd ateb ar 09 Hydref 2009

Mae ffigurau diweddaraf yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn dangos bod 125,540 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig wedi'u cofrestru mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn 2007/08. Mae hyn yn gynnydd o 19.9% ers 2000/01.

Ni chaiff gwybodaeth am gofrestriadau mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2008/09 ei chyhoeddi tan fis Ionawr 2010.

Nid oes cyfyngiad ar nifer y myfyrwyr y gall Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru eu recriwtio ar hyn o bryd.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl milltir o’r M4 sydd dan derfynau cyflymder is na’r terfyn cyflymder cenedlaethol ar hyn o bryd. (WAQ54889)

Rhoddwyd ateb ar 14 Hydref 2009

Ar hyn o bryd mae 15 o filltiroedd o'r M4 yng Nghymru o dan gyfyngiadau cyflymder dros dro. Mae fy swyddogion yn y broses o gasglu gwybodaeth am gyfyngiadau cyflymder parhaol a byddaf yn anfon copi o hwn ymlaen atoch maes o law.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl milltir o draffyrdd neu gefnffyrdd Cymru sydd dan derfynau cyflymder ar hyn o bryd sy’n is na’r terfyn cyflymder cenedlaethol a beth yw’r ffigur hwn ar ffurf canran. (WAQ54890)

Rhoddwyd ateb ar 14 Hydref 2009

Ar hyn o bryd mae 15 o filltiroedd o draffordd ac 83 o filltiroedd o gefnffordd yng Nghymru o dan gyfyngiadau cyflymder dros dro. Mae hyn yn 7.5% o'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru. Mae fy swyddogion yn y broses o gasglu gwybodaeth am gyfyngiadau cyflymder parhaol a byddaf yn anfon copi o hwn ymlaen atoch maes o law.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o bwerau cynllunio’r Awdurdod Parc Cenedlaethol. (WAQ54891)

Rhoddwyd ateb ar 09 Hydref 2009

Mae'r tri Awdurdod Parciau Cenedlaethol yng Nghymru yn awdurdodau cynllunio lleol unigol. O ganlyniad, mae ganddynt ddyletswydd i baratoi a mabwysiadu cynllun datblygu lleol ar gyfer eu hardaloedd, pennu ceisiadau ar gyfer caniatâd cynllunio, a chymryd camau gorfodi cynllunio os oes angen.

Ar ddiwedd 2008, gofynnais i Swyddfa Archwilio Cymru gynnal adolygiad cymharol o'r gwasanaethau cynllunio a ddarperir gan bob un o'n Hawdurdodau Parciau Cenedlaethol. Cyhoeddwyd yr adroddiadau hynny ar 27 Mai 2009, ac ers hynny rwyf i a'm swyddogion wedi cyfarfod ag Awdurdodau'r Parciau i adolygu eu cynnydd o ran ymateb i'r argymhellion a wnaed i wella eu perfformiad o ran darparu gwasanaethau cynllunio, fel y nodwyd yn eu Hadroddiadau SAC.  Ni chafodd argymhellion am newidiadau strwythurol i'r broses gyfredol o ddarparu swyddogaethau cynllunio eu cynnwys gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd y bydd pob Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru’n cydymffurfio’n llawn â’r Gyfarwyddeb Oriau Gwaith. (WAQ54888)

Rhoddwyd ateb ar 09 Hydref 2009

Ar ddechrau mis Medi, roedd 93.5% o'r rotas a ddatblygwyd gan Ymddiriedolaethau'n cydymffurfio â'r Gyfarwyddeb Oriau Gwaith.

Mae Prif Weithredwr GIG Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weithredwyr y Byrddau Iechyd Lleol newydd yn eu hatgoffa o'r angen i bob rota gydymffurfio â hi.