Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 28 Tachwedd 2011 i’w hateb ar 5 Rhagfyr 2011
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn ôl pob etholaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, beth oedd cyfanswm cost y grant amddifadedd disgyblion a dalwyd ym mhob un o’r 5 mlynedd diwethaf (atebwch o ran lleoliad yr ysgolion a dderbyniodd y grant os gwelwch yn dda.) (WAQ58409)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth oedd cyfanswm cost y grant amddifadedd disgyblion ym mhob un o’r 5 mlynedd diwethaf. (WAQ58410)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn ôl pob awdurdod addysg lleol yng Nghymru, beth oedd cyfanswm cost y grant amddifadedd disgyblion a dalwyd ym mhob un o’r 5 mlynedd diwethaf. (WAQ58411)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pob sefydliad ac adeilad addysgol, gan gynnwys adeiladau addysg bellach a meithrinfeydd, o dan ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â rheoliadau a safonau acwsteg adeiladau. (WAQ58413)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Yn dilyn datganoli rheoliadau adeiladu, a ddaw i rym ar 31 Rhagfyr 2011, a oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i gynyddu cwmpas cyfreithiol Bwletin Adeiladu 93. (WAQ58414)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad, yn ôl pob ardal Bwrdd Iechyd Lleol, o nifer y bobl sydd ar hyn o bryd yn cael gwasanaethau iechyd meddwl mewn (a) gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion (hy drwy Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol a chlinigau cleifion allanol), (b) gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, ac (c) gwasanaethau iechyd meddwl i bobl hyn (gan gynnwys gwasanaethau dementia). (WAQ58412)