Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 6 Tachwedd 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa gynnydd mae’r Gweinidog yn ei wneud o ran catalogio nifer, pwrpas a gwerth y Grantiau Addysg Penodol, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol. (WAQ55088)
Rhoddwyd
ateb ar 10 Tachwedd 2009
Caiff rhestr o grantiau addysg penodol eu cyhoeddi ar safle mewnrwyd Llywodraeth y Cynulliad, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Cyllid, yn dilyn cyhoeddi setliad refeniw terfynol llywodraeth leol ar gyfer 2010-2011 ym mis Rhagfyr 2009.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa gamau mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau dull hollol integredig a thrawsadrannol i ddatblygu Cynllun Gweithredu Strategol er mwyn mynd i’r afael â thrais yn erbyn merched. (WAQ55084)
Rhoddwyd
ateb ar 10 Tachwedd 2009
Rydym wedi cwblhau ymgynghoriad ffurfiol 12 wythnos yn ddiweddar ar Gynllun Gweithredu Strategol newydd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn merched a cham-drin domestig. Mae'r cynllun yn cynnwys camau gweithredu sy'n ymwneud â meysydd ar draws amrywiaeth o bortffolios Gweinidogol a chafodd ei ardystio gan y Cabinet. Ar hyn o bryd, mae fy swyddogion yn gweithio gyda swyddogion Gweinidogion perthnasol eraill, y Swyddfa Gartref ac asiantaethau partner eraill i gytuno ar ddiwygiadau i'r Cynllun o ganlyniad i'r ymatebion i'r ymgynghoriad.
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi’i wneud o fanteision dull sy’n rhyw benodol mewn cysylltiad â Chynllun Gweithredu Strategol Cymru i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched. (WAQ55085)
Rhoddwyd
ateb ar 10 Tachwedd 2009
Nodais fy marn ar y mater hwn yn ystod trafodaeth yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Hydref a chyfarfod y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant ar gam-drin domestig a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2009.
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa gyllid mae’r Gweinidog yn ei neilltuo i sicrhau gwasanaethau cymorth rheng flaen cynaliadwy i ferched sydd wedi dioddef trais. (WAQ55086)
Rhoddwyd
ateb ar 10 Tachwedd 2009
Ar 6 Hydref 2009, cyhoeddais y bydd £1 filiwn ychwanegol ar gael o 1 Ebrill 2010 er mwyn helpu i gynorthwyo'r broses o ddarparu cynllun gweithredu newydd trais yn erbyn merched a cham-drin domestig. Mae hwn 33 y cant yn fwy na'r gyllideb refeniw bresennol. Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwario tua £10 miliwn y flwyddyn ar lochesau a gwasanaethau eraill i gefnogi pobl sy'n dianc rhag cam-drin domestig.
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa gamau mae’r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i’r afael â'r loteri cod post o ran cymorth i ddioddefwyr pob math o drais yn erbyn merched. (WAQ55087)
Rhoddwyd
ateb ar 10 Tachwedd 2009
Yn ystod trafodaeth yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Hydref 2009, nodais fanylion am yr holl waith ychwanegol sydd wedi cael ei wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf er mwyn cefnogi dioddefwyr trais yn erbyn merched. Rhoddais hefyd sawl enghraifft o'r gwasanaethau sydd bellach ar gael drwy Gymru i gefnogi dioddefwyr.
Mae'r cynllun gweithredu strategol newydd, a gaiff ei gefnogi gan y £1 filiwn ychwanegol a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft yn ceisio gwella gwasanaethau ymhellach - mae hyn yn cynnwys targedu adnoddau at feysydd lle bu bylchau yn flaenorol.