07/03/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 28 Chwefror 2013 i’w hateb ar 7 Mawrth 2013

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Russell George (Sir Drefaldwyn): Yn dilyn ateb y Gweinidog i WAQ61213, a wnewch chi gadarnhau mai’r cysylltiad â’r grid yr oeddech chi’n cyfeirio ato oedd yr un yn Lower Frankton ac nid lleoliad y ganolfan newydd yng Nghefn Coch. (WAQ62404)

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Yn dilyn WAQ 62079, a wnaiff y Gweinidog roi manylion ynghylch swm y ffi gychwynnol sy'n daladwy gan adeiladwyr sydd am fod yn rhan o NewBuy Cymru. (WAQ62407)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A allai’r Gweinidog nodi a sefydlwyd gwasanaeth cyn cofrestru ar gyfer darpar berchnogion tai sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o NewBuy Cymru. (WAQ62408)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Yn dilyn WAQ 62076 a allai’r Gweinidog gadarnhau'r amserlen a bennwyd ar gyfer y 19 cymdeithas dai o ran datblygu cynlluniau. (WAQ62409)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddileu categorïau digartrefedd a’r posibilrwydd y bydd pawb sy'n ddigartref yn cael ystyriaeth gydradd o ran ailgartrefu. (WAQ62410)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A allai’r Gweinidog nodi os cynhaliwyd dadansoddiad gwrthrychol ar lefel leol a chenedlaethol o anghenion tai yn y dyfodol. (WAQ62411)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Pa drafodaethau penodol ydych chi wedi'u cael â Chyngor Caerdydd am 'Ganolfan Drafnidiaeth' arfaethedig Cyngor Caerdydd ers mis Mai 2012 ac ar ba ddyddiadau y cynhaliwyd y trafodaethau hynny. (WAQ62406)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A oes gan Lywodraeth Cymru ddiffiniad o Gludiant Cymunedol ac os felly, beth ydyw. (WAQ62405)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Ers 16 Tachwedd, a gynhaliodd y Gweinidog neu ei swyddogion unrhyw drafodaethau â Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Cymru ynghylch lefelau praesept yr heddlu yng Nghymru. (WAQ62412)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu unrhyw drafodaethau y mae ef neu ei swyddogion wedi'u cael hyd yma ynghylch ystyriaethau o ran capio codiadau ym mhraesept yr heddlu gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn y dyfodol. (WAQ62413)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Yn dilyn yr ateb i WAQ62051, a wnaiff y Gweinidog amlinellu a yw'n ystyried codiad o saith y cant ym mhraesept yr heddlu yn gam rhesymol i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ei gymryd. (WAQ64217)