07/04/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 07 Ebrilll 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 07 Ebrill 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu manylion faint y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario ar farchnata a hysbysebu, heb gynnwys hysbysebion swyddi, ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ53870)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Mater i'r Ysgrifennydd Parhaol yw hwn ac rwyf wedi gofyn iddi ysgrifennu atoch.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Irene James (Islwyn): Faint o aelwydydd yn Islwyn sydd wedi cael cyllid drwy’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref? (WAQ53869)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Ers i'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref gael ei gyflwyno yn 2000, mae'r cynllun wedi gwario cyfanswm o £3,106,821 i helpu 3378 o gartrefi yn Islwyn.

Ceir dadansoddiad o'r cymorth a ddarparwyd isod:

• Cartrefi sydd wedi derbyn mesur Gwresogi: 1068

• Cartrefi sydd wedi derbyn mesur Insiwleiddio: 2255

• Nifer y Gwiriadau Hawl i Fudd-daliadau sydd wedi'u cwblhau: 371

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Diogelu’r Amgylchedd a Rheoli Gwastraff gan gynnwys unrhyw drafodaethau y mae’r Gweinidog neu ei swyddogion wedi’u cael gyda Gweinidogion y DU a’u swyddogion? (WAQ53881)

Jane Davidson: Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Gweinidogion y DU a'u swyddogion o ran Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yr Amgylchedd.  Mae'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol hwn yn arbennig o gymhleth ac mae'n hanfodol ein bod yn cael cwmpas y Gorchymyn yn gywir a sicrhau bod graddau cymhwysedd y Cynulliad yn glir.  Fodd bynnag, fel y nodwyd eisoes, ni yw'n bolisi gan Lywodraeth y Cynulliad i wneud sylwadau ar fanylion y trafodaethau.  

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae hi’n eu cymryd i wella gwasanaethau strôc ym Mhowys? (WAQ53879)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Ers amser, mae Bwrdd Iechyd Lleol Powys wedi cydnabod bod datblygu gwasanaethau strôc yn flaenoriaeth. Er nad yw'r BILl yn darparu gofal strôc aciwt na hyper-aciwt, mae'n ceisio darparu gwasanaethau adsefydlu arbenigol yn ysbytai Powys i gleifion sy'n sefydlog yn feddygol. Mae cynllun wedi'i lunio i ddatblygu a gweithredu gwasanaeth strôc arbenigol. Mae grŵp llywio lleol a phroses adolygu gwasanaeth wedi'u sefydlu. Defnyddir yr arian canolog a roddwyd i Bowys ar gyfer 2008-09 i sefydlu therapydd/nyrs ymgynghorol i arwain tîm gwasanaeth strôc arbenigol ac i ddarparu arbenigedd mewn adsefydlu.