Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 28 Mai 2010 i’w hateb ar 05 Mehefin 2010
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol - Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus, a pha gynnydd a wneir gan y Llywodraeth mewn cysylltiad â chasgliadau’r adroddiad. (WAQ56049)
Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Rhowch fanylion yr holl gamau a gymerwyd dros y 18 mis diwethaf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wrth baratoi ar gyfer gostyngiad posibl yng Nghronfa Gyfunol Cymru yn y flwyddyn ariannol bresennol ac i’r dyfodol. (WAQ56056)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth oedd cyfanswm yr arbedion o ddwyn Dysgu ac Addysgu Cymru dan adain Llywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ56052)
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod ei ddatganiad sydd yn yr arfaeth yn ymwneud â 'phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n symud o addysg cyn-16 i addysg ôl-16’ yn cynnwys manylion am gyllido ymchwil i anghenion addysg bellach. (WAQ56053)
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A yw’r Gweinidog yn gallu cadarnhau pa bryd mae’n bwriadu gwneud ei ddatganiad i’r Cyfarfod Llawn ar y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ymwneud â 'phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n symud o addysg cyn-16 i addysg ôl-16’. (WAQ56054)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth oedd cyfanswm yr arbedion a gyflawnwyd drwy ddwyn Awdurdod Datblygu Cymru dan adain Llywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ56050)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth oedd cyfanswm y gostyngiad yng nghostau gweinyddol y GIG o ganlyniad i’r ad-drefnu diweddar. (WAQ56055)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth oedd cyfanswm yr arbedion a gyflawnwyd drwy ddwyn Bwrdd Croeso Cymru dan adain Llywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ56051)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa archwiliadau a gaiff swyddogion a chontractwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn amddiffyn oedolion a phlant agored i niwed cyn eu bod yn cael caniatâd i gamu ar dir preifat i geisio difa moch daear yng ngogledd sir Benfro. (WAQ56057)
Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i leihau gwallau wrth weinyddu’r Taliad Sengl. (WAQ56058)