08/03/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 1 Mawrth 2013 i’w hateb ar 8 Mawrth 2013

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu rhestr o’r holl weithwyr o Lywodraeth Cymru a aeth gydag ef ar ei daith i Frwsel ar 28 Chwefror 2013 yn ogystal â rhestr o’r holl gyfarfodydd a gynhaliodd ar y diwrnod, gyda rhestr lawn o bawb a oedd yn bresennol. (WAQ64221)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lwyddiant Llywodraeth Cymru o ran cynyddu’r manteision etifeddiaeth i Gymru sy’n gysylltiedig â Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012. (WAQ64222)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu dadansoddiad manwl o’r costau teithio a llety a oedd yn gysylltiedig â’i daith ddiweddar i Frwsel. (WAQ64223)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran denu Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA i Gaerdydd. (WAQ64224)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl cyfarfod y mae’r Gweinidog wedi’i gynnal gyda’r Ffederasiwn Busnesau Bach ers dechrau’r Pedwerydd Cynulliad ynghylch ardrethi busnes ac elusennau, ac a wnaiff roi rhestr o’r dyddiadau a nodi pwy oedd yn bresennol ym mhob cyfarfod. (WAQ64218)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi’u cynnal gyda’r Gymuned Fusnes ynghylch ardrethi busnes ac elusennau ers dechrau’r Pedwerydd Cynulliad. (WAQ64219)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl gwaith y mae’r Gweinidog wedi cwrdd â phob Panel Sector Economaidd ers dechrau’r Pedwerydd Cynulliad, ac a all ddarparu'r dyddiadau a’r sector a oedd yn ymwneud â phob cyfarfod. (WAQ64227)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o westai a sefydliadau gwely a brecwast a gymerodd ran yn y cynllun Cwsmer Cudd yn 2012. (WAQ64228)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o bob busnes a gymerodd ran yn y cynllun Cwsmer Cudd yn 2012. (WAQ64229)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o arian y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o’i chynllun ‘cwsmer cudd’ ers ei greu yn 2012. (WAQ64230)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi nifer y cwsmeriaid cudd a gyflogwyd gan Lywodraeth Cymru ym mhob blwyddyn ariannol ers creu’r cynllun, gan gynnwys y radd a’r graddfeydd cyflog a oedd yn gysylltiedig â’u cyflogi. (WAQ64231)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at WAQ62333 a WAQ62334, os bydd unrhyw Awdurdod Lleol yn methu â chyrraedd y targed y mae wedi’i osod iddo ei hun ar gyfer lleihau nifer y lleoedd gwag, a fydd y pwerau ymyrryd y mae’n cyfeirio atynt yn cael eu defnyddio’n awtomatig mewn perthynas â’r awdurdod, neu a ddefnyddir y rhain yn ôl disgresiwn. (WAQ64220)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at WAQ62333 a WAQ62334, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa 10 Awdurdod Lleol y mae eu cynnydd o ran cyrraedd eu targedau ar gyfer lleihau nifer y lleoedd gwag yn cael ei fonitro’n chwarterol. (WAQ64225)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at WAQ62333 a WAQ62334, a wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r targedau ar gyfer lleihau nifer y lleoedd gwag erbyn mis Ionawr 2015 a gafodd gan bob Awdurdod Lleol. (WAQ64226)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiau penderfyniadau gwario’r GIG ar gydraddoldeb ac a yw Llywodraeth Cymru yn monitro’r rhain, a beth y gellir ei wneud os bernir y bu effaith negyddol oherwydd penderfyniadau Bwrdd Iechyd. (WAQ64216)

Lynne Neagle (Tor-faen): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i leihau amseroedd aros i gael gweld seicolegydd clinigol. (WAQ64217)

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr asesiad o effaith y cynllun gwarant morgais ar gydraddoldeb (sy’n datgan y ceir effaith niwtral ar bob grwp o bobl) a pha ystyriaeth y mae wedi’i rhoi i fforddiadwyedd blaendal o 5% gan bob grwp, sy’n ofynnol cyn i bobl gael eu derbyn ar y cynllun. (WAQ64215)