08/07/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad 54473/54476/54479/54482 i'w hateb ar 8 Gorffennaf 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad 54473/54476/54479/54482 i’w hateb ar 8 Gorffennaf 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa drafodaethau diweddar mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith Cyllideb 2009 ar fusnesau Cymru? (WAQ54473)

Rhoddwyd ateb ar 23 Medi 2009

Rwy'n cynnal trafodaethau rheolaidd gydag ystod eang o Weinidogion Llywodraeth y DU. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru sy'n cynrychioli Cymru ar y Cyngor Economaidd Cenedlaethol, mae ef hefyd yn cyd-gadeirio'r Uwchgynadleddau Economaidd.

Rwy'n mynychu Cydbwyllgor y Gweinidogion gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ac mae swyddogion hefyd yn chwarae rhan fawr drwy Grŵp Swyddogion Cydbwyllgor y Gweinidogion. Rwyf hefyd wedi cael cyfarfodydd â'r Arglwydd Adonis ac wedi trafod materion trafnidiaeth traws-ffiniol, gan gynnwys rheilffyrdd cyflym, trydaneiddio Prif Lwybr Great Western a chynlluniau ffyrdd trawsffiniol. Rwyf wedi trafod materion ynghylch adroddiad Prydain Ddigidol gyda'r Gweinidog dros Gyfathrebu, Technoleg a Darlledu.

Trafodir materion sy'n ymwneud yn benodol â Chyllideb y DU rhwng y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Byddaf yn parhau i sicrhau y caiff buddiannau Cymru eu cwmpasu ym mhob agwedd ar brosiectau a arweinir gan Lywodraeth y DU, megis rheilffyrdd cyflym a thrydaneiddio.

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa drafodaethau diweddar mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith Cyllideb 2009 ar y diwydiant logisteg yng Nghymru? (WAQ54476)

Rhoddwyd ateb ar 23 Medi 2009

Caf drafodaethau rheolaidd â'm cyd-weinidogion yn Lloegr i drafod ystod eang o faterion gan gynnwys materion sy'n ymwneud â'r diwydiant logisteg yng Nghymru.

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa drafodaethau diweddar mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith y mesurau ariannol diweddar ar fusnesau Cymru? (WAQ54479)

Rhoddwyd ateb ar 23 Medi 2009

Rwy'n cynnal trafodaethau rheolaidd gydag ystod eang o Weinidogion Llywodraeth y DU. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru sy'n cynrychioli Cymru ar y Cyngor Economaidd Cenedlaethol yn yr Uwchgynadleddau Economaidd ac â Gweinidogion Llywodraeth y DU yng nghyfarfodydd Cydbwyllgor y Gweinidogion. Mynychais gyfarfodydd Cydbwyllgor y Gweinidogion a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2008 a mis Mai 2009, mae cysylltiad agos gan swyddogion hefyd drwy Grŵp Swyddogion Cydbwyllgor y Gweinidogion.

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa drafodaethau diweddar mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith y mesurau ariannol diweddar ar y diwydiant logisteg yng Nghymru? (WAQ54482)

Rhoddwyd ateb ar 23 Medi 2009

Caf drafodaethau rheolaidd â'm cyd-weinidogion yn Llywodraeth y DU i drafod ystod eang o faterion gan gynnwys materion sy'n ymwneud â'r diwydiant logisteg yng Nghymru.