Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 1 Gorffennaf 2013 i’w hateb ar 8 Gorffennaf 2013
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i leihau’r nifer fawr o swyddi gwag sy’n cael eu hysbysebu mewn ysbytai ledled Gogledd Cymru ar hyn o bryd? (WAQ65016)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd mewn absenoldebau staff ym mhob maes yn y GIG rhwng 2011 a 2012? (WAQ65017)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cysylltiad rhwng absenoldebau staff ac anfodlonrwydd staff yn y GIG? (WAQ65018)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu mabwysiadu rhaglen debyg o ryddhau ystadegau llawfeddygon unigol i gleifion eu gweld, fel sydd wedi'i mabwysiadu yn Lloegr yn ddiweddar; os na, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella tryloywder ym maes llawfeddygaeth yn y GIG? (WAQ65019)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo darparu tamoxifen i fenywod â risg uchel neu risg ganolig o ganser y fron, er mwyn osgoi’r angen i nifer o fenywod gael masectomi? (WAQ65020)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu data Byrddau Iechyd Lleol am y cyfraddau ysmygu yng Nghymru? (WAQ65021)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cysylltiad rhwng cyfraddau ysmygu a lefelau amddifadedd, ac a wnaiff amlinellu’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â hyn? (WAQ65022)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae’r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau wedi helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu yng Nghymru, ac ai dull seiliedig ar gymhellion i feddygon teulu yw'r ffordd orau o helpu ysmygwyr? (WAQ65023)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A yw’r Gweinidog wedi trafod â Byrddau Iechyd lleol sut y bydd y Cynllun Gweithredu ar Reoli Tybaco yn cael ei rannu fel bod Byrddau Iechyd unigol ledled Cymru yn ymwybodol o’u targedau unigol eu hunain ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu? (WAQ65024)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro llwyddiant Byrddau Iechyd lleol ledled Cymru wrth fesur y targedau yng nghyswllt nifer y bobl sy’n ysmygu, a osodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar Reoli Tybaco? (WAQ65025)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw gymhellion ariannol sydd ar gael i feddygon teulu yn sgîl atgyfeiriad drwy’r cynllun Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau? (WAQ65026)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog Byrddau Iechyd lleol i ddilyn arferion gorau fel y dangoswyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol(NICE) wrth gynnig y cymorth mwyaf addas i amgylchiadau'r unigolyn ar gyfer stopio ysmygu? (WAQ65027)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu data ar ba ddulliau therapi sydd wedi cael y cyfraddau llwyddiant uchaf wrth helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu yng Nghymru gan Fyrddau Iechyd lleol? (WAQ65028)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A yw’r Gweinidog wedi trafod opsiynau eraill ar gyfer hyrwyddo rhoi’r gorau i ysmygu yng Nghymru, yn ogystal â gwasanaeth Dim Smygu Cymru? (WAQ65029)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gyfraniad y mae’r Gweinidog yn rhagweld y bydd y gwasanaeth Dim Smygu Cymru arbenigol yn ei wneud at gyrraedd targedau'r Cynllun Gweithredu ar Reoli Tybaco? (WAQ65030)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A yw Llywodraeth Cymru wedi ymdrechu i bwysleisio pwysigrwydd rhoi’r gorau i ysmygu mewn ardaloedd lle ceir cyfraddau uchel o ysmygu, drwy annog a chynorthwyo Byrddau Iechyd lleol yn yr ardaloedd hyn yn benodol? (WAQ65031)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i leihau nifer y swyddi gwag nad ydynt yn arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a pha gamau y mae’n eu cymryd i leihau nifer y swyddi gwag hyn ochr yn ochr â’r lleihad yn nifer y swyddi arbenigol? (WAQ65032)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi adroddiad Allegra ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad ar y cyd a wnaethpwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gyhoeddwyd ar 27 Mehefin 2013)? (WAQ65036)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi adroddiad Chris Hurst ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad ar y cyd a wnaethpwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gyhoeddwyd ar 27 Mehefin 2013)? (WAQ65037)
Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfrifoldeb Cynghorau lleol i ddarparu drysau tân mewn eiddo domestig y mae’r Cyngor yn berchen arno? (WAQ65035)
Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau fod drafft cyn-cyflwyno’r Bil Sector Amaethyddol (Cymru) wedi’i ddrafftio ym mis Ebrill 2013, fel y nodwyd gan y cyfeirnod "DRAFT-04-13" ar y papur Bil Drafft a ddosbarthwyd i’r Aelodau ar 27 Mehefin 2013? (WAQ65015)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw’n bwriadu gwneud unrhyw newidiadau i’r Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cwn) fel y’u gosodwyd ar 11 Mehefin 2013 cyn pleidlais gan Aelodau’r Cynulliad o dan y weithdrefn gadarnhaol ac, os felly, pa gynlluniau sydd ganddo i ymgynghori eto â rhanddeiliaid? (WAQ65033)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cwn) yn cael eu gosod gerbron Aelodau’r Cynulliad i bleidleisio arnynt o dan y weithdrefn gadarnhaol cyn dechrau toriad yr haf 2013? (WAQ65034)