08/12/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 8 Rhagfyr 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 8 Rhagfyr 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd y mae’r Gweinidog yn bwriadu cyflwyno cyhoeddiad ynghylch cynlluniau Cyngor Caerdydd i adeiladu ysgol newydd ar dir maes hamdden Tredelerch. (WAQ55234)

Rhoddwyd ateb ar 10 Rhagfyr 2009

Fel rydych yn ymwybodol, gwrthwynebwyd y cynigion a gyhoeddwyd ac yn unol â'r gweithdrefnau statudol perthnasol, cyfeiriwyd y mater er mwyn benderfynu.

Mae nifer fawr y gwrthwynebiadau a chymhlethdod y cynnig yn golygu nad yw'n bosibl dweud ag unrhyw sicrwydd pryd y caiff penderfyniad ei gyhoeddi. Ar hyn o bryd, rwy'n gobeithio y bydd hyn cyn diwedd y tymor ysgol presennol, ond ni ellir gwarantu hyn.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan pam iddi ddewis peidio ag ymgynghori â’r Gynghrair Vending Choice wrth baratoi Canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Beiriannau Gwerthu mewn Ysbytai yng Nghymru. (WAQ55230)

Rhoddwyd ateb ar 8 Rhagfyr 2009

Daeth y Glymblaid Dewisiadau Gwerthu i fodolaeth ym mis Rhagfyr 2008, felly nid oedd yn bosibl ymgynghori â hwy cyn lansio'r Canllawiau ar Beiriannau Gwerthu Bwyd Iach mewn Ysbytai ym mis Medi 2008. Wrth baratoi Canllawiau ar Beiriannau Gwerthu mewn Ysbytai yng Nghymru Llywodraeth Cynulliad Cymru, gwnaeth fy swyddogion ymgysylltu â'r Gymdeithas Peiriannau Gwerthu Awtomatig fel rhan o'r broses o gyfnewid diwydiant. Cyfeirir at y Gymdeithas Peiriannau Gwerthu Awtomatig yn y canllawiau. Mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi cyfarfod â'r Glymblaid Dewisiadau Gwerthu ers cyflwyno'r canllawiau, a bydd swyddogion yn parhau i ymgysylltu â hwy wrth i'r gwaith ar yr agenda hon fynd rhagddo.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am orffen talu ôl-ddyledion cyflogau i staff y GIG yn sir Fynwy oherwydd gweithredu’r Agenda ar gyfer Newid. (WAQ55231)

Rhoddwyd ateb ar 21 Rhagfyr 2009

Mater rhwng y cyflogwr a'r cyflogai yw talu ôl-ddyledion cyflog.  Deallaf y bu rhywfaint o oedi mewn rhai o'r hen Fyrddau Iechyd Lleol o ran rhoi trefn ar gymhathu'r Agenda ar gyfer Newid a thalu ôl-ddyledion.  

Mae Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan wedi ymgymryd â'r cyfrifoldeb o ymdrin ag unrhyw faterion gweddilliol o'r fath ar ran hen gymuned iechyd Gwent.

Byddwn wedi disgwyl i bob mater o'r fath gael ei ddatrys beth amser yn ôl.  Os ydych yn ymwybodol o unrhyw achosion penodol lle nad yw hyn wedi digwydd, dylid tynnu sylw Swyddog Arweiniol yr Agenda ar gyfer Newid yn y BILl at yr achosion hynny.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i wella cyfradd goroesi cleifion canser yr ysgyfaint yng Nghymru. (WAQ55232)

Rhoddwyd ateb ar 21 Rhagfyr 2009

Mae dogfen bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru "Cynllun i Fynd i'r Afael â Chanser yng Nghymru" a'i fframweithiau strategol ategol yn nodi'r camau a gymerir o ran canser, yn cynnwys canser yr ysgyfaint.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o ganser yr ysgyfaint er mwyn hybu diagnosis cynnar yng Nghymru. (WAQ55233)

Rhoddwyd ateb ar 21 Rhagfyr 2009

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhan o weithgor Ymwybyddiaeth o Ganser yr Ysgyfaint i annog ymwybyddiaeth o ganser yr ysgyfaint ymhlith gweithwyr iechyd rheng flaen.  Yn ogystal, gan y priodolir o leiaf 80% o'r holl farwolaethau a achosir gan ganser yr ysgyfaint i ysmygu, rydym wedi canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o'r cysylltiad rhwng ysmygu a chanser yr ysgyfaint.  Rydym wedi:

  • Darparu gwybodaeth i bobl ifanc am y cysylltiad hwn drwy Gystadleuaeth Dosbarth Ddi-fwg flynyddol ar gyfer plant 11-13 oed a'r rhaglen ASSIST ar gyfer plant 12-13 oed;  

  • Darparu gwybodaeth i oedolion yn nodi bod ysmygu yn achosi canser yr ysgyfaint, yn cynnwys gwefan Her Iechyd Cymru a'r cyhoeddiadau 'Canser:  lleihau'r risg' a 'Digon yw Digon '

  • Codi ymwybyddiaeth o'r cysylltiad rhwng mwg ail-law a chanser yr ysgyfaint fel rhan o'r ymgyrch gwybodaeth i'r cyhoedd ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth ddi-fwg yng Nghymru ym mis Ebrill 2007.