Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 1 Rhagfyr 2011 i’w hateb ar 8 Rhagfyr 2011
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion pob achlysur mae wedi cwrdd â Gweinidogion y DU yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, gan gyfeirio at y dyddiad, y lleoliad a’r pynciau a drafodwyd. (WAQ58421)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion pob achlysur mae wedi cwrdd â Gweinidogion y DU yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, gan gyfeirio at y dyddiad, y lleoliad a’r pynciau a drafodwyd. (WAQ58418)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion pob achlysur mae wedi cwrdd â Gweinidogion y DU yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, gan gyfeirio at y dyddiad, y lleoliad a’r pynciau a drafodwyd. (WAQ58419)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr gynhwysfawr o gynlluniau ac ymrwymiadau ariannol gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’u hanelu at leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. (WAQ58427)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog restru’r panel o arbenigwyr sy’n ymwneud â dylunio’r rhaglen Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol. (WAQ58428)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion yr amserlen sydd ynghlwm â datblygu’r rhaglen Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol. (WAQ58429)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o nifer y myfyrwyr dysgu Cymreig sydd wedi gorfod gadael Cymru i gael gwaith. (WAQ58430)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa bryderon sydd gan y Gweinidog ynghylch yr amrywiad mawr o ran ystod a nifer y cyrsiau sydd ar gael i ddysgwyr mewn ardaloedd daearyddol gwahanol. (WAQ58431)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu cael gafael ar gyngor diduedd am ddim wrth benderfynu ar ei addysg. (WAQ58432)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa werthusiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gynnal o ansawdd, canlyniadau, effeithlonrwydd a chost effeithiolrwydd y ddarpariaeth sy’n ymwneud ag ymestyn y dewis i ddysgwyr a’r craidd dysgu. (WAQ58433)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r gwahaniaeth mewn darpariaeth ar gyfer y craidd dysgu rhwng y darparwyr addysgol hynny sy’n cynnig Bagloriaeth Cymru a’r rheini nad ydynt. (WAQ58434)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i gefnogi ac i hybu darparu cyrsiau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg. (WAQ58435)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Wrth ehangu’r amrywiaeth o ran ystod a nifer y cyrsiau sydd ar gael i ddysgwyr ôl 16, pa werthusiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ynghylch gwerth am arian. (WAQ58436)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal gydag ysgolion ffydd ynghylch cydweithio a gweithio mewn partneriaeth. (WAQ58437)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith newidiadau i’r cyllid grant 14-19 ar weithrediad a chynaliadwyedd tymor hir y Mesur Dysgu a Sgiliau. (WAQ58438)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Wrth weithredu’r Mesur Dysgu a Sgiliau, beth fu’r effaith ar ansawdd canlyniadau ar safonau a lles dysgwyr. (WAQ58439)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn y datganiad ysgrifenedig ar 22ain Tachwedd o’r enw ‘Mewnforio wyau o’r UE’ a wnaiff y Gweinidog egluro pa aelod o gabinet Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am les dofednod. (WAQ58416)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion pob achlysur mae wedi cwrdd â Gweinidogion y DU yn ystod y pedwerydd Cynulliad, gan gyfeirio at y dyddiad, y lleoliad a’r pynciau a drafodwyd. (WAQ58417)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn ei ateb i WAQ58318, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau’r dyddiadau pan i) gafodd yr adroddiad, ii) fydd yr adroddiad ar gael i’r cyhoedd, a iii) fydd yn cyhoeddi datganiad ynghylch ei argymhellion. (WAQ58440)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion pob achlysur mae wedi cwrdd â Gweinidogion y DU yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, gan gyfeirio at y dyddiad, y lleoliad a’r pynciau a drafodwyd. (WAQ58420)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion pob achlysur mae wedi cwrdd â Gweinidogion y DU yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, gan gyfeirio at y dyddiad, y lleoliad a’r pynciau a drafodwyd. (WAQ58423)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gyllid ychwanegol, tu hwnt i’r £0.75m a ddyrannwyd, y mae’r Gweinidog yn disgwyl y bydd ei angen ar gyfer cydlynu a chynllunio ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn y 5 mlynedd nesaf. (WAQ58425)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u rhoi i’r Gweinidog Cyllid, y Prif Weinidog a'r cabinet ynghylch cyllid ychwanegol ar gyfer y portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. (WAQ58426)
Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion pob achlysur mae wedi cwrdd â Gweinidogion y DU yn ystod y pedwerydd Cynulliad, gan gyfeirio at y dyddiad, y lleoliad a’r pynciau a drafodwyd. (WAQ58422)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion pob achlysur mae wedi cwrdd â Gweinidogion y DU yn ystod y pedwerydd Cynulliad, gan gyfeirio at y dyddiad, y lleoliad a’r pynciau a drafodwyd. (WAQ58424)