Atebion a roddwyd i Aelodau ar 9 Mehefin 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Cwestiynau
Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint sydd wedi cael ei wario ar wasanaethau cyfreithiol ar gyfer y maes yr ydych yn gyfrifol amdano ym mhob blwyddyn er 2003? (WAQ54264)
Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Rwyf yn ymateb i’r cwestiynau uchod ar ran pob un o’r Gweinidogion. Fel y nodwyd yn fy ymateb i WAQ53893, WAQ53904, WAQ53888, WAQ53886, WAQ53890, WAQ53895 a WAQ53891, nid yw’n bosibl darparu dadansoddiad o gostau cyfreithiol fesul Adran Weinidogol am fod dyletswyddau adrannol wedi newid yn sylweddol dros amser, a hynny’n fwyaf diweddar ar ôl etholiad diwethaf y Cynulliad. Ceir crynodeb o’r cyfanswm a wariwyd o gyllidebau’r Weinyddiaeth Ganolog ar gyngor cyfreithiol allanol yn y tabl isod ynghyd â chostau rhedeg Adran Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Costau Gwasanaethau Cyfreithiol
Blwyddyn Ariannol |
Gwasanaethau Cyfreithiol Allanol £’000 |
Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol £’000 |
Cyfanswm Gwasanaethau Cyfreithiol £’000 |
2003-2004 |
1,684 |
3,200 |
4,884 |
2004-2005 |
830 |
3,331 |
4,161 |
2005-2006 |
922 |
3,901 |
4,823 |
Ar ôl uno CCNC |
|||
2006-2007 |
1,359 |
5,278 |
6,637 |
2007-2008 |
1,337 |
6,170 |
7,507 |
Nodwch y canlynol:
mae’r cynnydd mewn costau rhwng 2005-2006 a 2006-2007 yn bennaf o ganlyniad i uno Llywodraeth y Cynulliad â’r hen CCNCau;
mae’r cynnydd yng nghostau’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol rhwng 2006-2007 a 2007-2008 yn bennaf o ganlyniad i gyflwyno Deddf Llywodraeth Cymru 2006;
bydd y ffigurau ar gyfer 2008-2009 ar gael yn dilyn yr archwiliad o gyfrifon Llywodraeth Cynulliad Cymru;
mae’n debyg bod rhywfaint o arian ychwanegol wedi’i wario ar wasanaethau cyfreithiol allanol i gefnogi amcanion polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru yn uniongyrchol a fyddai wedi’i gofnodi yn erbyn cyllidebau rhaglenni. Nid yw’r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Nick
Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint sydd wedi cael ei wario ar wasanaethau cyfreithiol ar gyfer y maes yr ydych yn gyfrifol amdano ym mhob blwyddyn er 2003? (WAQ54266) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.
Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ54264.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint sydd wedi cael ei
wario ar wasanaethau cyfreithiol ar gyfer y maes yr ydych yn gyfrifol amdano ym mhob blwyddyn er 2003? (WAQ54276) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.
Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ54264.
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw gynlluniau i gyflwyno rhaglen cinio ysgol am ddim yng Nghymru fel y gwelwyd yn ddiweddar yn yr Alban? (WAQ54306)
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar wella safonau maethol bwyd a diod a ddarperir mewn ysgolion drwy ein Cynllun Gweithredu Blas am Oes, yn hytrach nac ehangu’r nifer o unigolion sy’n gymwys i gael prydau am ddim.
Mae prydau ysgol, ac yn enwedig prydau ysgol a ddarperir am ddim, yn agwedd bwysig ar ein strategaeth wrthdlodi. Mewn ardaloedd difreintiedig lle y gweinir llawer o’r prydau am ddim, mae’r rhain yn pennu’r safon ar gyfer y gwasanaeth cyfan. Mae ein menter lwyddiannus Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd eisoes yn helpu plant i gael cychwyn da i’r diwrnod, ac mae tua 960 o ysgolion cynradd yn rhan o’r cynllun.
Byddwn yn parhau i fonitro a dysgu o ddatblygiadau o bob rhan o’r DU - bydd hyn yn ein helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu ein hymagwedd ysgol gyfan tuag at wella bwyd a maeth mewn ysgolion yng Nghymru.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin
Cymru): Faint sydd wedi cael ei wario ar wasanaethau cyfreithiol ar gyfer y maes yr ydych yn gyfrifol amdano ym mhob blwyddyn er 2003? (WAQ54270) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.
Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ54264.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint sydd wedi cael ei wario ar wasanaethau
cyfreithiol ar gyfer y maes yr ydych yn gyfrifol amdano ym mhob blwyddyn er 2003? (WAQ54268) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.
Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ54264.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ffioedd ar gyfer arddangos Gwobrau’r Faner Werdd mewn Parciau Cenedlaethol? (WAQ54294)
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Mae ennill statws y Faner Werdd gan ysgolion yn llwyddiant mawr, a gallaf ddeall eu bod am ei arddangos i bawb ei weld. Fodd bynnag, mae angen caniatâd hysbysebu i arddangos y Faner Werdd yn allanol, ac felly rhaid talu ffi i’r awdurdod cynllunio lleol.
Mae ffioedd gwneud cais yn orfodol ac yn adlewyrchu’r adnoddau a ddefnyddir o ganlyniad i ofynion hysbysu ac ymgynghori a osodir ar awdurdodau cynllunio lleol wrth benderfynu ar geisiadau.
Yn gyffredinol, nid oes angen caniatâd hysbysebu fel arfer ar hysbyseb sy’n cael ei arddangos y tu mewn i adeilad. Os caiff y Faner Werdd ei harddangos y tu mewn i ysgol, nid yw’n debygol y bydd angen caniatâd hysbysebu.
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i adolygu’r canllawiau a roddwyd i Awdurdodau Lleol ynghylch darparu safleoedd sipsiwn/teithwyr? (WAQ54305)
Jane Davidson: Nid oes unrhyw gynlluniau gennyf i adolygu canllawiau cynllunio ar ddarpariaeth safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Cafodd canllawiau cynllunio cynhwysfawr eu cyhoeddi yn 2007. Mae’r canllaw yn datblygu’r argymhellion ar gyfer defnydd tir a ddeilliodd o Adolygiad Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad Cenedlaethol o’r Gwasanaeth a Ddarperir i Sipsiwn a Theithwyr ac adroddiad ymchwil Llywodraeth y Cynulliad, a gomisiynwyd o Brifysgol Birmingham, i ystyried Anghenion Llety Sipsiwn-Teithwyr yng Nghymru.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Faint sydd wedi cael ei wario ar wasanaethau cyfreithiol ar gyfer y maes yr ydych yn gyfrifol amdano ym mhob blwyddyn er 2003? (WAQ54274) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.
Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ54264.
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog yn ymwybodol o unrhyw newidiadau arfaethedig yn oriau agor Adrannau yn Ysbyty Llandrindod a allai effeithio ar wasanaethau? (WAQ54313)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Mae fy Swyddogion wedi cadarnhau gyda swyddogion BILl Addysgu Powys nad oes unrhyw gynlluniau na chynigion ganddynt i newid oriau agor unrhyw un o’r Adrannau yn Ysbyty Llandrindod ar hyn o bryd. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw wybodaeth am newidiadau, byddwn yn fodlon parhau i ystyried y mater hwn ymhellach.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint sydd wedi cael ei wario ar wasanaethau
cyfreithiol ar gyfer y maes yr ydych yn gyfrifol amdano ym mhob blwyddyn er 2003? (WAQ54282) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.
Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ54264.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y partneriaethau twristiaeth rhanbarthol? (WAQ54283)
Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Mae strwythurau rhanbarthol a lleol cyfredol ar gyfer marchnata, gan gynnwys y Partneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol, wedi’u hastudio’n ddiweddar o dan awenau’r Adolygiad Rheoli Cyrchfannau a Marchnata a gynhaliwyd.
Mae’r grŵp Gorchwyl a Gorffen a gafodd ei sefydlu gennyf yn ystyried argymhellion yr Adolygiad yn y maes hwn, a bydd yn cyflwyno ei ganfyddiadau i mi i’w hystyried yn yr hydref.
Ni allaf ychwanegu at hyn nes i mi weld adroddiad y Grŵp, ond gallaf fynegi fy mod yn parhau’n ymrwymedig i sicrhau bod gennym strwythur twristiaeth effeithiol ar gyfer darparu ar bob lefel.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli a marchnata cyrchfannau Cymru? (WAQ54284)
Alun Ffred Jones: Cyflwynais y wybodaeth ddiweddaraf am beth rydym yn ei wneud i reoli a marchnata cyrchfannau yng Nghymru fel rhan o’m datganiad yn y cyfarfod llawn ar 19 Mai.
Cynhaliwyd Adolygiad Rheoli Cyrchfannau a Marchnata a edrychodd ar y trefniadau presennol yng Nghymru ar gyfer datblygu a marchnata ein hardaloedd twristiaeth a nodwyd y newidiadau sydd eu hangen i gynnig profiad gwell. Hefyd, adolygwyd strwythurau rhanbarthol a lleol ar gyfer marchnata Cymru, y berthynas â gweithgareddau marchnata eraill a’r angen i wneud defnydd gwell o adnoddau cyfyngedig.
Rwyf wedi sefydlu grŵp Gorchwyl a Gorffen i ystyried argymhellion yr Adolygiad ac i gytuno ar gynllun gweithredu priodol i ddatblygu’r gwaith hwn a sicrhau bod y strwythurau cywir ar waith ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Gobeithio y bydd y grŵp mewn sefyllfa i ddod â’r broses o lunio cynllun gweithredu ar gyfer datblygu’r argymhellion y cytunwyd arnynt yn yr adolygiad i ben yn gynnar yn yr hydref, a chyflwyno’r cynllun i mi i’w ystyried.
Gellir cael gafael ar adroddiad cryno’r ymgynghoriad ac ymatebion i’r ymgynghoriad yma.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael â’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch gwneud twristiaeth yn rhan o’r strategaeth swyddi gwyrdd? (WAQ54285)
Alun Ffred Jones: Ni chefais unrhyw drafodaethau penodol gyda’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth o ran cynnwys twristiaeth fel rhan o’r strategaeth Swyddi Gwyrdd, er bod y Strategaeth wedi’i thrafod yn y cabinet.
Mae fy swyddogion yn Croeso Cymru wedi cyfrannu at y broses o ddatblygu strategaeth Swyddi Gwyrdd drwy gyfarfodydd porth i bolisïau a’r broses ymgynghori ac o ganlyniad rhoddwyd ystyriaeth i flaenoriaethau twristiaeth a chafodd rhai eu cynnwys yn nogfen ymgynghori’r strategaeth Swyddi Gwyrdd.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint sydd wedi cael ei wario ar wasanaethau
cyfreithiol ar gyfer y maes yr ydych yn gyfrifol amdano ym mhob blwyddyn er 2003? (WAQ54280) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.
Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ54264.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint sydd wedi cael ei
wario ar wasanaethau cyfreithiol ar gyfer y maes yr ydych yn gyfrifol amdano ym mhob blwyddyn er 2003? (WAQ54272) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.
Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ54264.
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Nick
Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint sydd wedi cael ei wario ar wasanaethau cyfreithiol ar gyfer y maes yr ydych yn gyfrifol amdano ym mhob blwyddyn er 2003? (WAQ54278) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.
Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ54264.