Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 2 Gorffennaf 2012
i’w hateb ar 9 Gorffennaf 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu i ba raddau yr ymgynghorwyd â chymunedau lleol ynghylch y penderfyniad i atal hysbysiad cau dros dro Pysgodfa Gocos y Tair Afon ym mis Mehefin 2012. (WAQ60782)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion a chyfiawnhad dros y camau ymgynghori cyhoeddus a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru gyda thrigolion lleol cyn penderfynu atal hysbysiad cau dros dro Pysgodfa Gocos y Tair Afon ym mis Mehefin 2012. (WAQ60783)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad o’r effaith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith ei phenderfyniad i atal hysbysiad cau dros dro Pysgodfa Gocos y Tair Afon ym mis Mehefin 2012 ar iechyd y gwelyau cocos hynny. (WAQ60784)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i atal hysbysiad cau dros dro Pysgodfa Gocos y Tair Afon ymhellach rhwng mis Gorffennaf 2012 a mis Gorffennaf 2015. (WAQ60785)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i sicrhau’r budd economaidd lleol mwyaf yn ystod cyfnod atal hysbysiad cau dros dro Pysgodfa Gocos y Tair Afon ym mis Mehefin 2012. (WAQ60786)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion yr holl ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin ynghylch y penderfyniad i atal hysbysiad cau dros dro Pysgodfa Gocos y Tair Afon ym mis Mehefin 2012. (WAQ60787)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion yr holl ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r Cynghorau Tref a Chymuned o amgylch 'Tair Afon' ynghylch y penderfyniad i atal hysbysiad cau dros dro Pysgodfa Gocos y Tair Afon ym mis Mehefin 2012. (WAQ60788)
Gofyn i Wenidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i reoli ailgyflwyno rhywogaethau bywyd gwyllt yng Nghymru. (WAQ60781)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amseroedd aros i oedolion ar gyfer diagnosis o Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig. (WAQ60779)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amseroedd aros i blant ar gyfer diagnosis o Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig. (WAQ60780)