09/08/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 9 Awst 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 9 Awst 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.CynnwysCwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog nodi sut y caiff triniaethau ysbyty a ddarperir i gleifion Cymru mewn lleoliadau tu allan i Gymru eu prisio? (WAQ50266)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Cytunir ar gostau ar gyfer triniaethau yn yr ysbyty a ddarperir ar gyfer cleifion o Gymru mewn lleoliadau y tu allan i Gymru rhwng y ddau sefydliad GIG sy'n cymryd rhan - y contractwr o Gymru, a'r darparwr o Loegr.  Nid yw costau yn seiliedig ar y tariff genedlaethol sydd ar waith gan yr Adran Iechyd yn Lloegr, ond cânt eu trafod rhwng y ddau barti.

Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog nodi nifer y plant sy'n derbyn triniaeth iechyd meddwl ar wardiau oedolion mewn ysbytai, a pha dargedau a bennwyd i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn derbyn triniaeth iechyd meddwl ar wardiau oedolion mewn ysbytai? (WAQ50267)

Edwina Hart: Nid oes data canolog wedi'i gasglu ar nifer y plant a gaiff eu derbyn mewn wardiau i oedolion sydd â diagnosis cyntaf o iechyd meddwl ac nid oes targedau ar hyn o bryd i sicrhau y caiff pob plentyn wasanaeth iechyd meddwl mewn ysbyty mewn wardiau nad ydynt yn rhai i oedolion.

Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi manylion y taliadau cyfalaf a delir yn flynyddol o ran cam cyntaf yr Ysbyty Plant, ynghyd ag amcan o'r taliadau cyfalaf ar gyfer ail gam y prosiect? (WAQ50268)

Edwina Hart: Y taliadau cyfalaf sy'n gysylltiedig â Cham 1 o'r ysbyty Plant yw £0.237 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae'r achos busnes ar gyfer Cam 2 wrthi'n cael ei ddatblygu. Mae amcangyfrifon o daliadau cyfalaf yn cael eu llunio ar hyn o bryd ac nid ydynt wedi'u pennu eto, ond byddant yn dibynnu ar raddfa'r datblygiad newydd.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i sicrhau bod cyllid ar gael i gwblhau Ysbyty Plant Cymru? (WAQ50269)

Edwina Hart: Pan gaiff yr Achos Busnes Llawn ei gymeradwyo daw costau cyfalaf y gwaith adeiladu o'm dyraniad o gyllid cyfalaf ar gyfer y GIG. Hefyd, mae costau cyfalaf sy'n gysylltiedig â'r gwasanaethau arbenigol iawn a ddarperir gan yr ysbyty i blant, ac a gomisiynwyd gan CIC, wedi'u sicrhau drwy £2 miliwn o'm cyllideb taliadau cyfalaf canolog. Rhaid i fyrddau iechyd lleol ddod o hyd i weddill y refeniw angenrheidiol.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch cwblhau Ysbyty Plant Cymru? (WAQ50270)

Edwina Hart: Rwy'n bwriadu dod â'r holl Fyrddau Iechyd Lleol perthnasol a'r Ymddiriedolaeth ynghyd i benderfynu ar ffordd ymlaen ym mis Medi.

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwasanaethau adsefydlu cardiaidd sydd ar gael i gleifion? (WAQ50280)

Edwina Hart: Mae angen cryfhau'r gwasanaethau hyn yng Nghymru.  Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ariannu nifer o gynlluniau adsefydlu cardiaidd ledled Cymru drwy'r Gronfa Anghydraddoldebau Iechyd.  Mae'r gwerthusiad cychwynnol o'r cynlluniau hyn yn galonogol.  Byddant yn dod i ben yn ystod y flwyddyn ariannol a byddaf yn annog Byrddau Iechyd Lleol i ddysgu'r hyn y gellid ei ddysgu ohonynt ac i sicrhau bod mynediad cyfartal ym mhob ardal yng Nghymru.Bydd y Safonau arfaethedig ar gyfer adsefydlu cardiaidd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol diwygiedig drafft ar gyfer Clefyd Coronaidd y Galon yn ategu'r angen am ehangiad o'r fath.

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A yw'r Gweinidog wedi cynnal unrhyw asesiad o fanteision gwasanaethau adsefydlu cardiaidd, neu a yw'n gwybod am unrhyw asesiad a wnaed ohonynt, a pha gynlluniau sydd ganddi i estyn y ddarpariaeth? (WAQ50281)

Edwina Hart: Mae'r cynlluniau presennol yn cael eu gwerthuso ar hyn o bryd ac mae'r canlyniadau yn galonogol.  Byddaf yn annog Byrddau Iechyd Lleol i ddysgu'r gwersi o'r cynlluniau hyn ac i sicrhau y ceir yr un ddarpariaeth ledled Cymru.

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi nifer y cleifion sy'n gymwys i gael gwasanaethau adsefydlu cardiaidd, ac a wnaiff gymharu'r nifer sy'n gymwys i gael gwasanaethau o'r fath â'r nifer sy'n eu defnyddio? (WAQ50282)

Edwina Hart: Nid yw nifer y cleifion sy'n gymwys am wasanaethau adsefydlu cardiaidd a faint sy'n eu defnyddio yn hysbys gan na chaiff y ffigurau ar gyfer Cymru eu cadw yn ganolog.