09/10/2012 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 2 Hydref 2012
i’w hateb ar 9 Hydref 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Yn dilyn ei hateb i WAQ61251, a wnaiff y Gweinidog roi copïau llawn a chyflawn o’r cyfraniadau at gais am dystiolaeth Grwp Gorchwyl a Gorffen Ardaloedd Twf Lleol Powys, yn hytrach na fersiwn cryno. (WAQ61305)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion faint y mae Llywodraeth Cymru wedi’i fuddsoddi yn y Cynllun Cymorth Band Eang hyd yn hyn a faint o geisiadau a gymeradwywyd.  (WAQ61306)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion sut y mae’r £425 miliwn o fuddsoddiad mewn band eang a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2012 yn mynd rhagddo.  (WAQ61307)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn ei ateb i WAQ61246, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa agweddau ar y rhaglen i ddileu TB a) sydd wedi cael eu hadolygu, a b) sydd wedi cael eu monitro ers ei ddatganiad llafar ar 20 Mawrth 2012. (WAQ61304)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

Leanne Wood (Canol De Cymru): Mewn niferoedd a chanrannau, a wnaiff y Gweinidog roi manylion faint o gynnyrch gan weithgynhyrchwyr yng Nghymru, nid cyfanwerthwyr, a gyflenwir gan Compass Group fel rhan o’i gontract arlwyo gyda Llywodraeth Cymru. (WAQ61309)

Leanne Wood (Canol De Cymru): Mewn termau ariannol, a wnaiff y Gweinidog roi gwybodaeth am werth y cynnyrch a ddefnyddir a ddaw o weithgynhyrchwyr yng Nghymru fel canran o gyfanswm contract arlwyo Compass Group gyda Llywodraeth Cymru. (WAQ61310)

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad manwl o’r gweithgynhyrchwyr bwyd yng Nghymru a ddefnyddir fel rhan o gontract arlwyo Compass gyda Llywodraeth Cymru. (WAQ61311)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r newidiadau sydd wedi bod o ran cael diagnosis o Glefyd y Crymangelloedd a Thalasaemia a thriniaeth ar eu cyfer yn Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro, a’r broses ymgynghori a fu cyn rhoi’r newidiadau ar waith. (WAQ61302)

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn ymwybodol o’r gwahanol fathau o ddementia. (WAQ61303)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i argymhellion adroddiad Dilnot. (WAQ61308)