Atebion a roddwyd i Aelodau ar 9 Rhagfyr 2008
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pryd fydd y Gweinidog yn cyhoeddi’r adroddiad a gomisiynwyd y llynedd am lywodraethu clinigol yn Ysbyty Abergele? (WAQ52857)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Fel y gwyddoch, bu oedi o ran adolygu gwasanaethau Abergele ac er mwyn symud y broses yn ei blaen, gofynnais i’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, yr Athro Mike Harmer, i ymchwilio i’r mater.
Yn ogystal ag ymweld â’r ysbyty a chyfarfod â’r staff clinigol yno, ers hynny mae’r Athro Harmer wedi adolygu’r cynigion ac ymatebion yr ymgynghoriad ac wedi cyflwyno adroddiad i mi’n ddiweddar iawn. Byddaf yn ystyried yr adroddiad hwn cyn penderfynu ar sut y caiff ei gyhoeddi, neu pryd.