Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 29 Mawrth 2012 i’w hateb ar 10 Ebrill 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion yr holl drafodaethau y mae ef a’i Lywodraeth wedi’u cynnal gyda neu ynghylch Gamesa a’r posibilrwydd o sefydlu canolfan weithgynhyrchu fawr ar y môr yn y DU. (WAQ60068)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn ystod y cyfnod rhwng 2010 a 2011, a wnaiff y Prif Weinidog roi manylion pa sylwadau a wnaeth Gweinidogion Cymru i Lywodraeth y DU ar gyfer datganoli pwerau sy'n ymwneud â phrosiectau ynni ar y tir dros 50MW. (WAQ60069)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn ystod y cyfnod rhwng 2010 a 2011, a wnaiff y Prif Weinidog roi manylion pa sylwadau a wnaeth Gweinidogion Cymru i Lywodraeth y DU ar gyfer datganoli pwerau sy'n ymwneud â phrosiectau ynni ar y môr dros 50MW. (WAQ60070)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn ystod y cyfnod rhwng 2010 a 2011, a wnaiff y Prif Weinidog roi manylion pa sylwadau a wnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU ar gyfer datganoli pwerau sy'n ymwneud â phrosiectau ynni ar y tir dros 50MW. (WAQ60071)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn ystod y cyfnod rhwng 2010 a 2011, a wnaiff y Prif Weinidog roi manylion pa sylwadau a wnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU ar gyfer datganoli pwerau sy'n ymwneud â phrosiectau ynni ar y môr dros 50MW. (WAQ60072)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa effaith fydd y penderfyniad i ollwng y cynlluniau i ddatblygu Wylfa B yn ei chael ar yr amserlen ac ar ddatblygiad Ynys Môn fel “Ynys Ynni” arfaethedig. (WAQ60066)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i farchnata a hyrwyddo Parc Busnes Llanelwy yn Sir Ddinbych a Pharc Menai yng Ngwynedd. (WAQ70073)
Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael i gartrefu aelodau’r lluoedd arfog yn fuan iawn ar ôl iddynt adael y lluoedd arfog. (WAQ60074)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Eluned Parrott (Canol De Cymru): Pa sylwadau a wnaeth y Gweinidog i Lywodraeth y DU cyn i’r ymgynghoriad ar HS2 ddod i ben ac ar wahân i’r Gweithdy Ymgynghori ar Reilffyrdd Cyflym yng Nghaerdydd. (WAQ60067)