10/06/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 3 Mehefin 2008 i’w hateb ar 10 Mehefin 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pobl sy’n ymadael â Chynllun Masnachu Hunangyflogaeth y Fargen Newydd. (WAQ51827)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae ef a’i adran wedi’u cael ynghylch y mynediad presennol neu unrhyw fynediad newydd arfaethedig ar yr A40 yn Llangrwyne o’r datblygiad Cwrt y Gollenn. (WAQ51830)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i dynnu sylw at y peryglon y gallai pobl fynd yn sownd oherwydd y llanw yn ystod misoedd yr haf. (WAQ51829)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddatblygu strategaeth nyrsio cymunedol ac os felly, pryd y caiff ei chyhoeddi. (WAQ51828)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Ar sail data sydd wedi’i ddiweddaru, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd Gwesbyr nawr yn cael ei gynnwys ac a fydd Talacre nawr yn cael ei eithrio o Gymunedau yn Gyntaf Gogledd Gwledig Sir y Fflint, ac os nad, pam. (WAQ51826)