Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 3 Gorffennaf 2012
i’w hateb ar 10 Gorffennaf 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa waith ymchwil neu gasglu data y mae’r Gweinidog wedi’i a) cychwyn b) terfynu c) diwygio yn ystod y pum mlynedd diwethaf. (WAQ60790)
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Yn dilyn ei ateb i WAQ60714 a wnaiff y Prif Weinidog ddarparu rhestr o ddyddiadau, amseroedd a lleoliadau’r cyfarfodydd pan drafodwyd defnyddio’r Gemau Olympaidd i hyrwyddo Cymru i’r byd a phwy oedd yn bresennol. (WAQ60799)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Nick Ramsay (Mynwy): Yn dilyn WAQ60727, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o gwmnïau sydd wedi bod yn ymwneud â phroses dendro Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru, ac a wnaiff y Gweinidog enwi pob sefydliad dan sylw. (WAQ60789)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa waith ymchwil neu gasglu data y mae’r Gweinidog wedi’i a) cychwyn b) terfynu c) diwygio yn ystod y pum mlynedd diwethaf. (WAQ60791)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa waith ymchwil neu gasglu data y mae’r Gweinidog wedi’i a) cychwyn b) terfynu c) diwygio yn ystod y pum mlynedd diwethaf. (WAQ60795)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pryd y bydd y Gweinidog yn adolygu llwyddiant y canllaw arfer da sy’n ymwneud â chyfleusterau toiledau ysgolion a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. (WAQ60802)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei bolisïau mewn perthynas â darparu addysg awyr agored fel rhan o’r siwrnai addysgol ehangach i bobl ifanc yng Nghymru. (WAQ60803)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau y mae wedi’u cynnal gyda’r Gynghrair Cefn Gwlad ynghylch addysg awyr agored a phryd y cawsant eu cynnal. (WAQ60804)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa waith ymchwil neu gasglu data y mae’r Gweinidog wedi’i a) cychwyn b) terfynu c) diwygio yn ystod y pum mlynedd diwethaf. (WAQ60794)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): A oes gan Lywodraeth Cymru y pwer i wahardd defnyddio anifeiliaid mewn syrcasau yng Nghymru. (WAQ60798)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Canfyddiadau a nodwyd yng Nghyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai Bannau Brycheiniog 2011. (WAQ60801)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd dros y pedair blynedd nesaf. (WAQ60811)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa waith ymchwil neu gasglu data y mae’r Gweinidog wedi’i a) cychwyn b) terfynu c) diwygio yn ystod y pum mlynedd diwethaf. (WAQ60793)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw’r swm uchaf o arian y caiff gweision sifil unigol ei hawlio ar dreuliau heb gael cymeradwyaeth weinidogol uniongyrchol ac a yw’r ffigur hwn yn amrywio rhwng Gweinidogion unigol. (WAQ60800)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion a chostau’r holl deithiau dosbarth cyntaf/busnes mewn trenau ar gyfer (a) Gweinidogion, (b) Dirprwy Weinidogion ac (c) swyddogion yn ystod (i) 2009/10, (ii) 2010/11 a (iii) 2011/12. (WAQ60808)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion a chostau’r holl deithiau dosbarth cyntaf/busnes ar awyrennau ar gyfer (a) Gweinidogion, (b) Dirprwy Weinidogion ac (c) swyddogion yn ystod (i) 2009/10, (ii) 2010/11 a (iii) 2011/12. (WAQ60809)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa waith ymchwil neu gasglu data y mae’r Gweinidog wedi’i a) cychwyn b) terfynu c) diwygio yn ystod y pum mlynedd diwethaf. (WAQ60792)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Fesul Bwrdd Iechyd Lleol, beth oedd cost flynyddol Oriau Agor Estynedig Meddygon Teulu a ariannwyd fel Gwasanaethau Ychwanegol o dan Gyfarwyddyd ym mhob blwyddyn ariannol er 2008. (WAQ60809)
Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa waith ymchwil neu gasglu data y mae’r Gweinidog wedi’i a) cychwyn b) terfynu c) diwygio yn ystod y pum mlynedd diwethaf. (WAQ60797)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa waith ymchwil neu gasglu data y mae’r Gweinidog wedi’i a) cychwyn b) terfynu c) diwygio yn ystod y pum mlynedd diwethaf. (WAQ60796)
Russell George (Sir Drefaldwyn): Pryd y bydd y Gweinidog mewn sefyllfa i gyhoeddi’r contractwr Dylunio ac Adeiladu a ffefrir ar gyfer Ffordd Osgoi’r Drenewydd. (WAQ60805)
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog egluro ar ba gam yn y broses Datblygu Cynllun Cefnffordd y mae ef a’i swyddogion o ran penodi contractwr ar gyfer Ffordd Osgoi’r Drenewydd. (WAQ60806)
Russell George (Sir Drefaldwyn): Yn amodol ar gwblhau’r broses cydsyniad statudol yn foddhaol, a yw’r Gweinidog yn dal yn disgwyl y bydd y gwaith o adeiladu Ffordd Osgoi’r Drenewydd yn dechrau ddiwedd 2014/dechrau 2015. (WAQ60807)