11/03/2010 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 04 Mawrth 2010 i’w hateb ar 11 Mawrth 2010

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o arian sy'n cael ei wario gan bob awdurdod lleol ar addysg fesul disgybl ysgol gynradd. (WAQ55733)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o arian sy'n cael ei wario gan bob awdurdod lleol ar addysg fesul disgybl ysgol uwchradd. (WAQ55734)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog ynghylch dyraniad cyllid 2010-11 y Setliad Grant Trafnidiaeth ar 24/2/10, a wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion cynhwysfawr ynghylch pob cynnig, yn llwyddiannus ac yn aflwyddiannus, gan Gyngor Sir Caerfyrddin. (WAQ55737)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog ynghylch dyraniad cyllid 2010-11 y Setliad Grant Trafnidiaeth ar 24/2/10, a wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion cynhwysfawr ynghylch pob cynnig, yn llwyddiannus ac yn aflwyddiannus, gan Gyngor Sir Penfro. (WAQ55738)

Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o gasgliad Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru nad yw'n cael ei arddangos ar hyn o bryd - fel canran o'r eitemau a nifer yr eitemau, ac o'r nifer hwn, faint o'r casgliad sy'n anghymwys i gael ei arddangos. (WAQ55736)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion, ar wahân, (a) nifer y ceisiadau roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu targedu, a (b) nifer y ceisiadau llwyddiannus, ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylchedd Tir Cynnal a Tir Gofal ym mhob blwyddyn maent wedi bod ar waith. (WAQ55735)