11/03/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 4 Mawrth 2013 i’w hateb ar 11 Mawrth 2013

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Gyda golwg ar Gronfa Twf Economaidd Cymru, a all y Gweinidog amlinellu pa gamau y gall Mentrau Cymunedol eu cymryd wrth ariannu tafarndai, bwytai a swyddfeydd post yng Nghymru ac a oes unrhyw gyfyngiadau ar y cyllid hwn. (WAQ64232)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa ganllawiau manwl sydd ar gael i fusnesau sy’n ymgeisio am gyllid gan Gronfa Twf Economaidd Cymru. (WAQ64236)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu nifer yr ymweliadau â http://www.visitwales.co.uk/ a gofnodwyd ym mhob mis rhwng 1 Mawrth 2012 a 28 Chwefror 2013. (WAQ64237)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Yn dilyn WAQ62201, pryd y bydd y Gweinidog mewn sefyllfa i gadarnhau union lefel y cyllid a ddyrennir i ‘Y Gynhadledd Fawr’. (WAQ64238)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Yn dilyn WAQ62201, pryd yr oedd y Gweinidog wedi clustnodi cyllid o Linell Gwariant Iaith Gymraeg y Gyllideb ar gyfer ‘Y Gynhadledd Fawr’. (WAQ64239)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Yn dilyn WAQ62203, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau union nifer y cyfarfodydd y mae wedi’u cynnal ynghylch sefydlu ‘Y Gynhadledd Fawr’, ac a wnaiff hefyd ddatgan gyda phwy oedd y cyfarfodydd hynny a beth oedd eu dyddiadau. (WAQ64240)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A all y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o’r Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru sydd wedi wynebu anawsterau ariannol difrifol ym mlwyddyn ariannol 2012. (WAQ64234)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A allai’r Gweinidog ddarparu cynllun wedi’i ddiweddaru ynghylch sut y bydd mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn cael ei wella yn unol â’r effeithiau economaidd-gymdeithasol a nodwyd yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb. (WAQ64235)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn cyhoeddi’r Canllaw Clinigol CG156 ar Ffrwythlondeb ar 20 Chwefror 2013, a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu’r argymhelliad yn llawn i ddarparu hyd at 3 cylch llawn o IVF. (WAQ64241)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth yw’r amseroedd aros cyfartalog ar gyfer: a) cyfeirio am driniaeth ffrwythlondeb gan feddygon teulu i ganolfannau ffrwythlondeb arbenigol; a b) dechrau triniaeth ar ôl yr ymgynghoriad cyntaf gydag ymgynghorydd ffrwythlondeb. (WAQ64242)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth yw’r amseroedd aros hiraf a argymhellir ar gyfer: a) cyfeirio am driniaeth ffrwythlondeb gan feddygon teulu i ganolfannau ffrwythlondeb arbenigol; a b) dechrau triniaeth ar ôl yr ymgynghoriad cyntaf gydag ymgynghorydd ffrwythlondeb. (WAQ64243)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o gyplau a gyfeiriwyd am driniaeth ffrwythlondeb arbenigol bob blwyddyn rhwng 2007 a 2012. (WAQ64244)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth yw cost cylch o IVF i’r GIG. (WAQ64245)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa ddarpariaeth ddeddfwriaethol y mae’r Gweinidog yn ei gwneud ynghylch rhoi terfyn ar yswiriant indemniad i gynghorwyr. (WAQ64233)