Atebion a roddwyd i Aelodau ar 11 Mehefin 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno
yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i gefnogi mentrau sy’n ceisio ailddefnyddio offer domestig? (WAQ54295)
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Nod Cyfarwyddeb Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE) yw lleihau effaith cyfarpar trydanol ac electronig ar yr amgylchedd drwy annog pobl i’w ailddefnyddio, ei ailgylchu a’i adfer pan gaiff ei waredu.
Rwyf wedi cyhoeddi bod £90m ychwanegol ar gael dros dair blynedd er mwyn cynyddu’r gwaith o reoli gwastraff cynaliadwy gan gynnwys ei ailddefnyddio. Mae’r Grant Rheoli Gwastraff Cynaliadwy (SWMG) i awdurdodau lleol wedi cynyddu £9m eleni (2009/10) i £59m. Gellir defnyddio’r arian ychwanegol hwn i adeiladu cyfleusterau megis safleoedd amwynderau dinesig a ddefnyddir i gasglu offer domestig.
Mae llawer o sefydliadau yn y sector cymunedol yn rhan o’r broses o gasglu ac ailddefnyddio offer domestig. Y llynedd, cyhoeddais fod Rhaglen Fuddsoddi Cylch i Feithrin Gallu yn cael ei chreu, a fydd yn darparu £3m i gefnogi grwpiau sy’n gweithio ym maes ailddefnyddio yn y diwydiant ailgylchu.
Bydd Cynllun Craff am Wastraff (WAW), a ariennir gan Lywodraeth y Cynulliad yn cynnal ymgyrch genedlaethol yn y wasg ac yn y maes darlledu a fydd yn ystyried cylch bywyd nwyddau trydanol ym mis Mehefin 2009 Bydd yr ymgyrch hon yn cyd-fynd â’r newid i ddigidol ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth am y gallu i atgyweirio a/neu ailddefnyddio eitemau WEEE. Bydd hefyd yn rhoi gwybodaeth am ailgylchu WEEE. Hefyd, bydd hyrwyddo ailddefnyddio WEEE yn rhan o ymgyrch fwy strategol i’w chyflawni gan WAW yn y dyfodol.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Sawl achos o (a) clwy’r pennau, (b) y pâs, (c) teiffoid, (d) y dwymyn goch, (e) colera, (f) difftheria, (g) gwahanglwyf, (h) botwliaeth, (i) listeria, (j) twblercwlosis, (k) polio a (l) teiffws a fu ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf? (WAQ54318)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Mae gwybodaeth am nifer yr achosion hyn o glefydau trosglwyddadwy ar gael ar brif dudalen adrodd gwefan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd yn
http://www.hpa.org.uk/webw/HPAweb&Page&HPAwebAutoListName/Page/1191942172956?p=1191942172956. Mae’r adroddiadau wythnosol yn dadansoddi hysbysiadau o glefydau a gynhwysir fesul ardal Bwrdd Iechyd Lleol. Nodir rhai clefydau, gan gynnwys gwahanglwyf a pholio ar wahanol dudalennau o’r wefan.