11/07/2007 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 4 Gorffennaf 2007 i’w hateb ar 11 Gorffennaf 2007

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a ThrafnidiaethJanet Ryder (Gogledd Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ledaenu’r gefnffordd gyfredol ar y pwynt culaf ar Lôn Fawr, Rhuthun. (WAQ50180)Janet Ryder (Gogledd Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ymestyn y system gefnffordd gyfredol drwy Ruthun i gynnwys y ffordd gyswllt newydd sydd newydd gael ei hadeiladu yn y dref a lleihau’r llif traffig drwy’r dref. (WAQ50181)Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau CymdeithasolJanet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau adsefydlu’r ysgyfaint yng Ngogledd Cymru. (WAQ50177)Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan faint o weithwyr iechyd sydd ar gael i gynnal yr asesiadau hyn dan y gwasanaeth ocsigen diwygiedig a faint o bobl - fesul sir - dylid eu hasesu yng Ngogledd Cymru. (WAQ50178)Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan faint o bobl sydd wedi cael eu hasesu yng Ngogledd Cymru - fesul sir - ar gyfer y gwasanaeth ocsigen diwygiedig a faint sy’n dal i aros am asesiad. (WAQ50179)Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am pam mae Comisiwn Iechyd Cymru wedi stopio cyllido cleifion o Gymru ar gyfer triniaeth Ysgogi yn Nwfn yr Ymennydd yn Lloegr. (WAQ50182)Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Darparu Gwasanaethau CyhoeddusKirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adeiladu eiddo Cymdeithasau Tai gyda chawodydd mynediad gwastad ar gyfer yr henoed. (WAQ50183) Gofyn i’r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu GwledigKirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fonitro’r Biblinell Nwy Genedlaethol o Aberdaugleddau i Titley.  (WAQ50184)