11/07/2012 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 4 Gorffennaf 2012
i’w hateb ar 11 Gorffennaf 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Prif Weinidog yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod Cymru yn manteisio’n llawn o gynnal yr Uefa Super Cup yn 2014. (WAQ60833) TYNNWYD YN ÔL

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa effaith economaidd y mae’r Prif Weinidog yn credu y bydd yr Uefa Super Cup yn 2014 yn ei chael ar economi Caerdydd yn lleol, ac ar economi Cymru yn gyffredinol. (WAQ60834) TYNNWYD YN ÔL

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa rôl, os o gwbl, y chwaraeodd Llywodraeth Cymru wrth annog Uefa i enwebu Stadiwm Dinas Caerdydd fel lleoliad yr Uefa Super Cup yn 2014, ac a wnaiff y Prif Weinidog restru unrhyw drafodaethau perthnasol y bu swyddogion neu Weinidogion Llywodraeth Cymru iddynt, gan roi’r amserau a dyddiadau. (WAQ60835)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Yn dilyn ymateb y Prif Weinidog yn ystod y Cwestiynau i’r Prif Weinidog ar 29 Mai y byddai unrhyw gyngor a roddir i Lywodraeth Cymru gan yr Athro Steve Smith yn cael ei gyhoeddi ar ôl iddo ddod i law, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa bryd y mae’n disgwyl i hyn ddigwydd. (WAQ60820)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o’r holl gostau o gyflogi ‘enwogion’ neu ‘sêr’ mewn digwyddiadau swyddogol Llywodraeth Cymru, gan roi ffigurau blynyddol ar gyfer pob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ60830)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r holl ‘enwogion’ neu ‘sêr’ a gyflogwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i ddigwyddiadau swyddogol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y costau ar gyfer pob un, ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ60831)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi ffigurau ar gyfer unrhyw wariant gan Lywodraeth Cymru o gynnal y cinio Dydd Gwyl Dewi yn Neuadd y Ddinas ar y cyd â Chyngor Caerdydd, gan roi dadansoddiad o’r costau ar gyfer a) arlwyo/diodydd, b) adloniant/cerddoriaeth, c) arall, a d) y cyfan, gan roi ffigurau ar gyfer pob un o’r tair blynedd diwethaf. (WAQ60832)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw gwerth y contract gyda’r Swyddfa Dywydd i roi’r newyddion diweddaraf am dywydd poeth rhwng 1 Mehefin 2012 a 15 Medi 2012. (WAQ60812)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Byrddau Iechyd Lleol Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf a Phowys ynghylch ad-dalu’r £24.4m o gyllid ychwanegol a roddwyd iddynt gan Lywodraeth Cymru yn ystod blwyddyn ariannol 2011-12.  (WAQ60821)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog egluro penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi £477,000 yn llai o gyllid i Atal ac Iechyd y Cyhoedd yn 2012-13. (WAQ60822)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa raglenni penodol sydd wedi cael y £56.014m ychwanegol mewn refeniw a chyfalaf a’r £19.930m mewn Gwariant a Reolir yn Flynyddol yn yr adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant. (WAQ60823)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog egluro penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi £629,000 yn llai o gyllid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2012-13. (WAQ60824)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ehangu’r cyllid a ddyrannwyd i ‘Gyflenwi Gwasanaethau Craidd y GIG’ gyda’r bwriad o roi’r GIG ar sylfeini ariannol cynaliadwy a lleihau amseroedd aros orthopedig, o 2015-16 ac wedi hynny. (WAQ60825)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog egluro pam nad oedd dim sôn yn ei datganiad ar 2 Mai ar Alldro Ariannol y GIG am y £12m o gymorth yn ystod y flwyddyn a roddwyd i Fwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a’r Fro yn 2011-12. (WAQ60826)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yng nghyd-destun ei haddewidion na fydd yr un ysbyty cyffredinol dosbarth yng Nghymru yn cael ei israddio, a wnaiff y Gweinidog roi diffiniad o ‘israddio’. (WAQ60827)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog egluro’r rhesymeg am y gwahaniaethau yn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer cyllid i Ofal Parhaus y GIG rhwng Cymru ac eraill yn y Deyrnas Unedig. (WAQ60828)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pam mae ‘Difrifol’ a ‘Blaenoriaeth’ wedi’u dileu o’r Meysydd Gofal yn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer cyllid Gofal Parhaus y GIG. (WAQ60829)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog roi manylion yr achos busnes o blaid ac yn erbyn gwasanaeth gwaed Cymru gyfan. (WAQ60813)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint yw’r tanwariant ar ddyraniad graddfa ffioedd meddygon fferyllol yn y pum mlynedd diwethaf. (WAQ60814)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw gwerth y contract cynnal a chadw ar gyfer y ddau sganiwr CT yn ysbyty Treforys a Singleton fel a gymeradwywyd ar 19 Ebrill 2012. (WAQ60815)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint yw’r amcan o’r gost o symud tuag at Wasanaeth Gwaed Cymru Gyfan. (WAQ60836)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw’r manteision o symud tuag at Wasanaeth Gwaed Cymru Gyfan. (WAQ60837)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru a Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG ynghylch symud tuag at Wasanaeth Gwaed Cymru Gyfan. (WAQ60838)

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfarfodydd y mae wedi’u cael gyda chronfa dreftadaeth y loteri. (WAQ60816)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa ganran o’r Swyddogion Cymorth Cymunedol a recriwtiwyd hyd yn hyn sy’n dod o gymunedau lleiafrifoedd ethnig. (WAQ60818)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog ceisiadau gan gymunedau lleiafrifoedd ethnig i fod yn Swyddogion Cymorth Cymunedol. (WAQ60819)