Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 4 Gorffennaf 2013 i’w hateb ar 11 Gorffennaf 2013
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa amcangyfrif a wnaeth y Gweinidog o gyfanswm cost rhoi’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi ar waith yn y Cynulliad hwn? (WAQ65085)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw cyllideb y Gweinidog ar gyfer y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi? (WAQ65086)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa bryd y penderfynwyd peidio â chyflwyno ymateb ffurfiol i’r adroddiad diweddar gan y Tasglu Trafnidiaeth Integredig ac ar ba sail y gwnaed y penderfyniad hwnnw? (WAQ65079)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint a wariodd Llywodraeth Cymru ar adroddiad y Tasglu Trafnidiaeth Integredig a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a faint y mae’r Gweinidog yn disgwyl i'r adroddiad annibynnol newydd ar system metro De Cymru ei gostio? (WAQ65080)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw hi’n bwriadu ystyried yr argymhellion a gynigir gan y Tasglu Trafnidiaeth Integredig ochr yn ochr â’r adroddiad annibynnol y mae hi wedi ei gomisiynu’n ddiweddar ar system metro i Dde Cymru. (WAQ65081)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa bryd y mae’r Gweinidog yn disgwyl cyhoeddi canfyddiadau ei hadroddiad annibynnol newydd ar system metro i Dde Cymru? (WAQ65082)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi rhestr o’r holl bobl sy’n ymwneud â chynhyrchu’r adroddiad annibynnol ar system metro i Dde Cymru? (WAQ65083)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi ffigur cyfanswm ar gyfer llinellau cyllideb yr Adran Addysg a Sgiliau sydd ynghlwm â’r meysydd hynny y mae’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg yn gyfrifol amdanynt? (WAQ65087)
Gofyn i'r Gweinidog Cyllid
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A all y Gweinidog roi manylion y trafodaethau a gafodd gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ynghylch argaeledd ystadegau economaidd penodol Gymreig, gan roi nifer a dyddiad pob cyfarfod? (WAQ65084)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i’r egwyddor y dylid gwneud newidiadau i’r Cynllun Llaeth am ddim ar gyfer Lleoliadau Meithrin, sydd â’r nod o gyflwyno gwell gwerth am arian, dim ond os gellir gwarantu na fydd unrhyw riant, plentyn neu ddarparwr gofal plant dan anfantais? (WAQ65088)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr egwyddorion a’r meini prawf y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio'u sicrhau o ran ymgynghoriad yr Adran Iechyd, 'Next Steps for Nursery Milk'? (WAQ65089)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu, gan gyfeirio at ymgynghoriad yr Adran Iechyd ‘Next Steps for Nursery Milk’, sut y bydd yn sicrhau bod (a) nifer y plant sydd â hawl i laeth am ddim mewn lleoliad meithrin; a (b) nifer y plant sydd yn derbyn llaeth am ddim mewn lleoliad meithrin yn cael eu cynnal yng Nghymru? (WAQ65090)