Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 4 Rhagfyr 2012 i’w hateb ar 11 Rhagfyr 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Nick Ramsay (Mynwy): Sawl gwaith y mae’r Gweinidog wedi cwrdd â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ers dechrau’r Pedwerydd Cynulliad. (WAQ61797)
Nick Ramsay (Mynwy): Sawl gwaith y mae’r Gweinidog wedi cwrdd â’r Athro Brian Morgan ers dechrau’r Pedwerydd Cynulliad. (WAQ61798)
Nick Ramsay (Mynwy): Pryd y bydd yr Athro Brian Morgan yn cyhoeddi ei adroddiad ar siopau elusen ac ardrethi busnes. (WAQ61799)
Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddiffinio beth a olygir wrth ‘siop elusen fwy’ mewn cysylltiad â’r argymhelliad yn yr adolygiad o ardrethi busnes Cymru i gyfyngu rhyddhad ardrethi i 50% ar gyfer siopau elusennol mwy. (WAQ61800)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn dilyn yr ateb i WAQ61723, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau beth a drafodwyd yn y cyfarfodydd ar 22 Mawrth, 13 Medi ac 8 Tachwedd ac a wnaiff gyhoeddi’r cofnodion. (WAQ61801)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): O ran cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio addysg bellach, a fydd colegau addysg bellach, fel Sefydliadau Di-Elw sy'n Gwasanaethu Aelwydydd, yn gallu cadw eu gwargedion er mwyn ail-fuddsoddi mewn addysg. (WAQ61802)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): O ran cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio addysg bellach, a fydd colegau addysg bellach sydd wedi’u hailddosbarthu fel Sefydliadau Di-Elw sy'n Gwasanaethu Aelwydydd yn gallu anwybyddu’r Cytundeb Cyflogau Cenedlaethol a’r Contract Cenedlaethol Cymru-gyfan a rhoi eu trefniadau contract eu hunain ar waith. (WAQ61803)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): O ran cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio addysg bellach, sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod asedau a gyllidwyd gan arian cyhoeddus yn cael eu gwarchod ar ôl iddynt gael eu trosglwyddo i golegau sydd wedi’u hailddosbarthu fel Sefydliadau Di-Elw sy'n Gwasanaethu Aelwydydd. (WAQ61804)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw gyfarfodydd sydd wedi’u cynnal i sefydlu swyddogaeth Trysorlys Cymru fel yr argymhellwyd yn Rhan 1 Comisiwn Silk. (WAQ61794)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae’n disgwyl i Fyrddau Iechyd Lleol a chyrff proffesiynol gefnogi’r sawl sy’n “chwythu’r chwiban” drwy ddatgelu gofal amhriodol yn y GIG. (WAQ61795)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw’n bwriadu sefydlu Cronfa Technolegau Iechyd ac, os felly, pryd y caiff ei rhoi ar waith ac a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw waith cychwynnol y mae ei hadran wedi’i wneud. (WAQ61796)
Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r canllawiau a gyhoeddwyd ar ddefnyddio triniaeth laser ar gyfer cyflyrau llygaid a rhoi manylion am a) nifer y clinigau sy'n cynnig y driniaeth hon; a b) nifer y cleifion sydd wedi cael triniaeth o’r fath yn y pum mlynedd diwethaf. (WAQ61807)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at brostadectomi laparoscopeg gyda chymorth roboteg ar gyfer cleifion canser y prostad yng Nghymru. (WAQ61808)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog roi manylion am yr holl ohebiaeth rhwng ei adran a Llywodraeth y DU (gan gynnwys y Trysorlys, yr Adran Gwaith a Phensiynau, a’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol) am gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor. (WAQ61805)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A yw’r Gweinidog wedi rhoi unrhyw ystyriaeth yn ystod y Pedwerydd Cynulliad i’r rôl y gallai meiri a etholir yn uniongyrchol ei chwarae o ran adfywio democratiaeth leol yng Nghymru. (WAQ61806)