12/03/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 12 Mawrth 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 12 Mawrth 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut mae modd gweithredu strategaeth addysg Gymraeg gyda'r newidiadau i'r dangosyddion statudol ym maes addysg Gymraeg yng Ngorchymyn Llywodraeth Lleol (Dangosyddion Perfformiad a Safonau Perfformiad) 2010. (WAQ55746) W

Rhoddwyd ateb ar 12 Mawrth 2010

Er mwyn monitro hynt y gwaith o weithredu’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gosod nifer o dargedau ar gyfer canlyniadau sy’n allweddol i lwyddiant y strategaeth. Mae’r data rydym ei angen i fonitro’r targedau hyn eisoes yn dod i law drwy ein casgliadau rheolaidd o ystadegau, a bydd yn parhau i fod felly. Ni fydd y newidiadau i ddangosyddion statudol ym maes addysg cyfrwng Cymraeg yn cael effaith ar y gwaith o gasglu data at ddibenion monitro’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Ar gyfer pob proses tendro, gan gynnwys y diweddaraf, yn ymwneud â'r gwasanaeth hedfan rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, sawl cynnig a gafodd Llywodraeth Cynulliad Cymru a faint o'r rhain y pennwyd nad oeddent wedi diwallu'r meini prawf a oedd yn y tendr. (WAQ55745)

Rhoddwyd ateb ar 22 Mawrth 2010

Roedd y tri chynnig a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod tendro cychwynnol ar gyfer y gwasanaeth awyr yn ystod 2006-07 yn cyflawni gofynion y tendr.  Dim ond un cynnig a dderbyniwyd yn ystod yr ymarfer tendro diweddar, ac nid oedd hwnnw'n cydymffurfio â gofynion y tendr.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei chynigion i roi'r gorau i gasglu a chyhoeddi gwybodaeth am amseroedd aros y GIG ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol a derbyn cleifion mewnol. (WAQ55744)

Rhoddwyd ateb ar 16 Mawrth 2010

Ar hyn o bryd mae'r Prif Ystadegydd yn ymgynghori â defnyddwyr ar gynigion i roi'r gorau i gasglu a chyhoeddi gwybodaeth am amseroedd aros y GIG ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol a nifer y cleifion mewnol a dderbynnir.  Caiff y rhesymau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn eu nodi'n glir yn y papur ymgynghori sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn www.wales.gov.uk/consultations/statistics/nhswaitingtimes .

Mae'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Ystadegydd gydbwyso nifer o ystyriaethau.  Mae'r rhain yn cynnwys anghenion defnyddwyr presennol yr ystadegau, y baich ar gyflenwyr data a'r buddiannau sy'n deillio o ddefnyddio'r ystadegau.  Diben yr ymgynghoriad yw cael barn amrywiaeth eang o ddefnyddwyr.

Mae disgwyl i'r ymgynghoriad ddod i ben ar 16 Ebrill.  Ar ôl y dyddiad hwn, caiff yr ymatebion eu hasesu a bydd y Prif Ystadegydd yn gwneud penderfyniad ar ba un a gaiff y cyhoeddiad ei atal ai peidio.

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod busnesau'n ymwybodol o'r rhyddhad mae ganddynt hawl iddo. (WAQ55739)

Rhoddwyd ateb ar 25 Mawrth 2010

Mae pob talwr ardrethi yn cael ei hysbysu o'r trothwyon rhyddhad gyda'i filiau ardrethi, ac mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi manylion y rhyddhad sydd ar gael ar ei gwefan.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i'r achos dros ddefnyddio rhyddhad ardrethi busnes yn awtomatig. (WAQ55740)  

Rhoddwyd ateb ar 25 Mawrth 2010

Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am bennu cymhwysedd safleoedd busnes i gael rhyddhad, a phan eu bod yn gallu gwneud hynny, maent yn rhoi'r rhyddhad hwnnw yn awtomatig.

Caiff rhyddhad y rhan fwyaf o'r busnesau sy'n dod o dan y trothwyon rhyddhad 25% neu 50% cyffredinol ei gyfrif yn awtomatig yn eu biliau ardrethi blynyddol.

Mae'n ofynnol i dalwyr ardrethi ddarparu cadarnhad ysgrifenedig eu bod yn bodloni'r meini prawf penodol ar gyfer rhyddhad adwerthu, gofal plant ac undebau credyd, ond dim ond unwaith y mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i ddangos y fath wybodaeth dros gyfnod pedair blynedd yr agwedd hon ar y cynllun.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o fusnesau sydd wedi manteisio ar eu hawl am ryddhad ardrethi er mis Ebrill 2005 a beth yw'r ffigurau fel % o'r holl fusnesau sydd â hawl i gael (a) rhyddhad ardrethi 50% cyffredinol, (b) rhyddhad ardrethi 25% cyffredinol, (c) rhyddhad ardrethi 25% adwerthu, a (d) rhyddhad eiddo gwag.  (WAQ55741)

Rhoddwyd ateb ar 25 Mawrth 2010

Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar adenillion a ddarparwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2008-2009.  Nid oes ffigurau ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol.  

a) Cafodd dros 16,500 o fusnesau ryddhad ardrethi 50%, (b) cafodd dros 28,800 ryddhad ardrethi cyffredinol 25%, (c) cafodd dros 1,500 rhyddhad ardrethi adwerthu 25%, a (ch) chafodd dros 15,000 ryddhad eiddo gwag.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o fusnesau fydd yn gymwys ar gyfer y rhyddhad ardrethi canlynol ar ôl ailbrisio ardrethi annomestig ym mis Ebrill 2010 (a) rhyddhad ardrethi 50% cyffredinol, (b) rhyddhad ardrethi 25% cyffredinol, (c) rhyddhad ardrethi 25% adwerthu, a (d) rhyddhad eiddo gwag.  (WAQ55742)

Rhoddwyd ateb ar 25 Mawrth 2010

Nid yw'n bosibl rhoi nifer yr eiddo busnes a fydd yn gymwys i gael rhyddhad, gan fod hyn yn dibynnu ar amgylchiadau unigol yr eiddo a'r talwr ardrethi.

Yn seiliedig ar wybodaeth o'r rhestrau ardrethi drafft ar gyfer 2010-2011 a luniwyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, amcangyfrifwn y bydd hyd at 20,000 o eiddo cymwys posibl yn dod o dan y trothwyon rhyddhad 50%, bydd 34,400 yn dod o dan y trothwyon rhyddhad cyffredinol 25%, a bydd tua 3,000 yn dod o dan y trothwyon rhyddhad ardrethi adwerthu 25%.

Mae cymhwysedd ar gyfer eiddo gwag yn dibynnu ar werth ardrethol yr eiddo a defnydd yr eiddo - gallai pob eiddo fod yn gymwys ar gyfer rhyddhad eiddo gwag am o leiaf chwe mis, a bydd unrhyw eiddo gwag â gwerth ardrethol o dan £18,000 yn cael ei eithrio rhag talu ardrethi.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o fusnesau sy'n gymwys ar hyn o bryd i gael (a) rhyddhad ardrethi 50% cyffredinol, (b) rhyddhad ardrethi 25% cyffredinol, (c) rhyddhad ardrethi 25% adwerthu, a (d) rhyddhad eiddo gwag.  (WAQ55743)

Rhoddwyd ateb ar 25 Mawrth 2010

Nid yw'n bosibl rhoi nifer yr eiddo busnes sy'n gymwys i gael rhyddhad, gan fod hyn yn dibynnu ar amgylchiadau unigol yr eiddo a'r talwr ardrethi.

Yn seiliedig ar wybodaeth o'r rhestrau ardrethi drafft ar gyfer 2005 a luniwyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, amcangyfrifwn y bydd hyd at 19,000 o eiddo cymwys posibl yn dod o dan y trothwyon rhyddhad 50%, bydd 35,000 yn dod o dan y trothwyon rhyddhad cyffredinol 25%, a bydd 3,100 yn dod o dan y trothwyon rhyddhad ardrethi adwerthu 25%.

Mae cymhwysedd ar gyfer eiddo gwag yn dibynnu ar werth ardrethol yr eiddo a defnydd yr eiddo - gallai pob eiddo fod yn gymwys ar gyfer rhyddhad eiddo gwag am o leiaf chwe mis, ac mae unrhyw eiddo gwag â gwerth ardrethol o dan £15,000 yn cael ei eithrio rhag talu ardrethi.

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ymgynghoriad sydd wedi bod ynghylch y newidiadau i’r dangosyddion statudol ym maes addysg Gymraeg yng Ngorchymyn Llywodraeth Lleol (Dangosyddion Perfformiad a Safonau Perfformiad) 2010. (WAQ55747) W

Rhoddwyd ateb ar 12 Mawrth 2010

Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar holl ddangosyddion perfformiad statudol llywodraeth leol rhwng mis Tachwedd 2009 a mis Ionawr 2010. Cafwyd dros 40 o ymatebion, ac nid oedd yr un yn gwrthwynebu ein cynigion ar addysg cyfrwng Cymraeg.

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw'r newidiadau i'r dangosyddion statudol ym maes addysg Gymraeg yng Ngorchymyn Llywodraeth Lleol (Dangosyddion Perfformiad a Safonau Perfformiad)2010. (WAQ55748) W

Rhoddwyd ateb ar 12 Mawrth 2010

Ni fydd dangosyddion perfformiad statudol llywodraeth leol yn cynnwys canran y plant sydd wedi'u hasesu yn Gymraeg (iaith gyntaf) yn ystod cyfnodau allweddol 2 a 3 o 1 Ebrill 2010.  Cesglir a chyhoeddir y data hwn fel rhan o gasgliadau ystadegau rheolaidd Llywodraeth y Cynulliad, a bydd hyn yn parhau. Nid oes angen casglu'r data fel dangosyddion perfformiad ar wahân.